Wednesday, October 31, 2012
llun
Mae fy ail ferch yn Corea'n brysur iawn wrth weithio'n hir bob dydd. Yn ogystal mae hi'n trio gwneud llawer mwy, dysgu Coreeg er enghraifft. Yn aml iawn mae hi o dan bwysau ac wedi blino. Er mwyn codi ei chalon, tynnais i luniau o'i moch cwta a'u gyrru ati hi. Roedd hi'n hapus gweld ei hannwyl anifeiliaid anwes a adawodd efo'i theulu. Wir, maen nhw'n annwyl (er bod hi'n dipyn o waith i ofalu amdanyn nhw.)
Tuesday, October 30, 2012
malwoden
Mae rhai pobl yn bwyta malwod. (Dw i ddim.) Dydy mam fy ngŵr ddim chwaith, ond aeth yn agos iawn at hynny'r wythnos diwethaf. Tra oedd hi a'i gŵr yn cael cinio mewn tŷ bwyta (yn Hawaii) roedd hi'n sylwi malwoden fach fach ar letys yn ei salad! Fedrith ddim siarad yn iawn ar ôl strôc flynyddoedd yn ôl, felly ei gŵr a alwodd y weinyddes a sgrechiodd wrth weld y peth. Cafodd Mam y pryd o fwyd yn rhad ac am ddim yn ogystal ag hufen iâ.
Monday, October 29, 2012
maen nhw ym mhob man
Dw i'n synnu (a ddim yn synnu ar yr un pryd) bod Radio Cymru'n medru ffeindio Cymry Cymraeg lle bynnag rhywbeth mawr yn digwydd yn y byd. Dw i newydd glywed Cymraes yn Efrog Newydd a oedd yn adrodd ei phrofiad wrth i Gorwynt Sandi nesau at y ddinas. Gobeithio bydd y bobl yn gadael eu cartrefi am lochesi diogel yn fuan.
Sunday, October 28, 2012
colled arall
2 - 1; er bod yr hogiau'n ceisio'n arw collon nhw unwaith yn rhagor. Ond roeddwn i'n falch o weld bod nhw'n gwella eu sgiliau ac maen nhw'n hogiau annwyl. Maen nhw'n mwynhau ymarfer o dan eu rheolwr dwywaith yr wythnos. Gan fod y gêm yn gorffen yn hwyr, aethon ni i Braum's am swper. Ces i Nacho Burger a oedd yn dda iawn.
Saturday, October 27, 2012
coginio yng nghanol nos
Roedd awydd coginio sydyn ar fy merch neithiwr, a dyma hi'n mynd i Wal Mart ar ôl gweld gêm bêl-droed Americanaidd y brifysgol, i brynu'r cynhwysion. Roedd hi wrthi (yn ei phyjamas) efo cymorth ei chwaer a'i brawd, a gorffen crasu apple crumble am 12:15 yn y bore! Roedd yn rhy hwyr bwyta'r gacen, felly gadawyd ar y bwrdd dros nos. Cawson ni ei blasu'r bore 'ma. Gwych iawn!
Friday, October 26, 2012
cogydd o Japan yn Fenice
Mae yna gogydd o Japan wrthi'n creu seigiau braf yn Fenice yn cyfuno ei sgil coginiol Japaneaidd, ryseitiau Fenisaidd a'r cynnyrch ffres lleol. Masa, hogyn o Osaka sy'n gweithio mewn tŷ bwyta yno wedi cael ei gyfareddu gan y bwyd lleol flynyddoedd yn ôl. Mae'r bwyd yn swnio'n flasus iawn (dw innau'n hoff o fwyd y môr) ac eithrio moeche - crancod efo cregyn meddal!
Thursday, October 25, 2012
nodiadau clên
Mae fy merch wrth ei bodd wedi cael nodiadau clên tuag at ei gwaith creadigol yn ddiweddar, gan nifer o bobl dros y byd yn llythrennol - yr Alban, Lloegr, Ffrainc, Gwlad Belg, Norway, yr Iseldiroedd, Canada, Awstralia, Taiwan, Vietnam, Singapore a mwy. Mae hi'n teimlo'n isel o bryd i'w gilydd ( fel digwyddith yn aml i artistiaid am wn i,) ond cododd y nodiadau ei chalon a rhoi nerth newydd iddi barhau o'r newydd. Un o'r pethau braf ynghyd â'r rhyngrwyd.
Wednesday, October 24, 2012
gwaith newydd i superman
Clywais fod Superman am adael ei gwmni papur newydd. Mae o'n anfodlon bod y papur yn cario gormod o adloniant. Bydd o'n gweithio liwt ei hun o hyn ymlaen. Dw i heb weld y ffilmiau diweddar a dweud y gwir; roeddwn i'n arfer gweld y gyfres gyntaf (du a gwyn!!) ar y teledu. Cymerodd dipyn iddo droi'n arwr ar yr adeg hynny oherwydd ei fod o'n gorfod chwilio am flwch ffôn i newid ei ddillad ynddo fo. Mae'r amser yn mynd!
Tuesday, October 23, 2012
pwy?
Es i swyddfa'r post y bore 'ma. Pan agorais y drws i fynd allan wedi gorffen y busnes, gwelais i gar wedi'i barcio o flaen y drws. Pwy oedd yn eistedd ar sedd wrth ochr y llyw ond hwn!
Monday, October 22, 2012
hen "encyclopedia"
Mae gynnon ni hen set o "encyclopedia" i blant a anfonwyd gan dad y gŵr yn Hawaii. Hen iawn ydy hi - argraffwyd yn 1969. Roedd y gŵr a biau hi. Er bod llawer o wybodaeth yn rhy hen wrth reswm, mae yna ddigon o ffeithiau sydd ddim yn newid. Ar ben hynny, mae'n ddiddorol gweld y bywydau a fu. A dweud y gwir, bydda i'n mynd ati braidd yn aml. Roedd llanastr ar y silff y mae'r set arni hi, a dyma benderfynu rhoi trefn arni. Mae'n hawdd ei defnyddio bellach.
Sunday, October 21, 2012
yr ymbarel
Llwyddodd fy mhlant i greu drama a'i recordio unwaith eto. Roeddwn i'n sylwi bod nhw wrthi yn eu hystafell rhwng eu gwaith cartref, gwaith rhan amser a gêm bêl-droed. Dw i'n llawn edmygedd bod nhw wedi sgrifennu'r sgript, actio, casglu'r effeithiau sain amrywiol a recordio ar y cyfrifiadur.
Saturday, October 20, 2012
"apple turnover"
Mae fy merched i gyd yn hoff o goginio, yn annhebyg i'w mam. Mae'r ddwy (sydd yn dal i fyw cartref) yn brysur efo'u gwaith cartref fel arfer, ond byddan nhw'n crasu pethau blasus pan gân nhw amser. Datganon nhw ddoe eu bydden nhw eisiau profi "apple turnover" a welon nhw'r rysait ar y we. A dyma nhw wrthi am awr neu ddwy. Roedd y canlyniad yn ardderchog!
Friday, October 19, 2012
gêm arall
Es i weld gêm gartref y brifysgol neithiwr. Clywais i eu bod nhw'n gwneud yn dda iawn yn ddiweddar efo rheolwr newydd - 19eg yn holl Unol Daleithiau. Roedd y tîm arall yn dda hefyd ac roedd yn gêm agos; 1-1. Dw i ddim yn mynd i gemau'n aml (dim ond y gemau'r tîm fy mab) felly ces i fy synnu'n gweld pa mor gyflym mae'r chwaraewyr yn medru rhedeg a thrin y bêl yn fedrus. (Pêl-droed dw i'n ei feddwl, fydda i ddim yn gweld dim arall!)
Thursday, October 18, 2012
tŷ bwyta newydd
Mae'r tŷ bwyta hwn yn y dref ers blynyddoedd, ond roedd dyma'r tro cyntaf i mi fynd yno. Roeddwn i a'r teulu eisiau trio rhywle newydd, a phenderfynon ni brofi'r tŷ bwyta bach teuluol hwn sydd gan ond un cogydd ac un weinyddes. Roedd eu carped newydd gael ei olchi, felly roedd i'r cwsmeriaid eistedd at y byrddau wrth y waliau. Dechreuais i feddwl a oedden ni'n gwneud camgymeriad, ond ces i fy siomi ar yr ochr orau! Roedd y cawl tatws a'r frechdan gyw iâr wedi'i thostio'n anhygoel o dda. Roedd pob un o'r teulu'n fodlon efo ei fwyd hefyd. Doedd ryfedd bod y lle yn llawn erbyn i ni orffen. Mae gen i ffefryn newydd bellach.
Wednesday, October 17, 2012
peth bach braf
Diwrnod cyntaf gwyliau'r hydref ydy hi heddiw, i blant yr ysgol o leiaf. Wedi siarad efo'r athrawon yn bersonol, es i'r eglwys sy'n ddrws nesa i'r ysgol i lanhau'r tai bach. Mae'r aelodau'n glanhau'r adeilad a thorri'r lawnt. Y fi sy'n gyfrifol am y tai bach. Hwrê! Mae gynnon ni holders papur tŷ bach newydd sbon. Roedd gan yr hen holders gynllun ofnadwy a oedd yn arfer brifo fy mysedd pan rois i roliau newydd. Penderfynais i ofyn i George sydd yn gwneud y gwaith cynnal a chadw wythnos yn ôl am osod rhai newydd. Un dibynadwy a gweithgar ydy o. (Mae o yn ei 80au.)
Tuesday, October 16, 2012
eli malwen
Mae yna amrywiaeth enfawr o eli i'r croen yn Corea yn ôl fy merch yna. Y mwyaf poblogaidd yn ddiweddaraf ydy eli malwen! Mae fy merch yn ei ddefnyddio ers dyddiau ac mae hi'n gwarantu fod o'n effeithiol. Fydda i byth ei ddefnyddio er pa mor effeithiol ydy o. Dw i ddim yn licio'r syniad; dw i'n foddlon efo eli ginseng.
Monday, October 15, 2012
nodyn bach
Dw i'n hoffi'r nodyn bach dw i'n ei dderbyn ar gongl sgrin y cyfrifiadur pan ga' i neges e-bost. Mae o'n dangos gan bwy mae'r neges yn dod am eiliad (digon hir i fedru darllen y pwnc hefyd os dach chi at y cyfrifiadur.) Bydda i wrth fy modd pryd bynnag gwela' i neges gan fy merch hynaf. Ar y llaw arall, pan ddwedith y nodyn mai ond hysbyseb ydy'r neges, fydd dim rhaid i mi ei gweld; neu bydda i'n ei dileu'n syth.
Sunday, October 14, 2012
mae o'n dod adref
Mae'r gŵr newydd fy ffonio o faes awyr Dallas. Mae o'n dod adref heno wedi treulio wythnos yn Japan. Yn ffodus doedd dim damwain nag afiechyd yn y teulu tra oedd o oddi cartref. Roedd yn stormus ddoe ond mae'n braf heddiw. Torrodd fy mab y lawnt blaen p'nawn 'ma. Mae yna gawl cyw iddo gael pan ddoith yn ôl mewn oriau. (Gadawodd ei gar ym maes awyr Tulsa, felly does dim rhaid i mi fynd.) Mae gwyliau'r hydref ar y trothwy.
Saturday, October 13, 2012
myfyrio
Does dim rhaid i mi yrru heddiw. Does dim ysgol na gêm bêl-droed. Mae yna ddau lyfr yn fy nisgwyl yn y llyfrgell ond dw i ddim eisiau mynd heddiw. Efallai bydda i'n mynd am dro nes ymlaen. Ar wahân i'r gwaith tŷ, darllen (llyfrau ac ar y we) a wna' i heddiw. Mae yna gymaint o wybodaeth ar gael ar y we. Dw i'n synnu o'r newydd. Mae yna ddrysau a nenfwd o Venice yn Villa Vizcaya yn Miami, Florida. Cawson nhw eu dwyn gan Napoleon ac yna, cawson nhw eu gwerthu mewn arwerthiant rhywle. Gallai'r drysau adrodd hanes diddorol pe bydden nhw'n gallu siarad.
Friday, October 12, 2012
bargen
Mae'n mynd yn anos fyth ffeindio dillad dw i'n eu hoffi; dw i ddim yn hoffi'r ffasiwn ddiweddar o gwbl. Ia, hen ffasiwn dw i. Yr unig le sy'n gwerthu dillad fy steil ydy siopau elusen. Ffeindiais i fargen - tri chrys am $7.56 gan gynnwys y dreth, ac maen nhw'n steil "traddodiadol." Dw i'n hapus iawn efo nhw yn enwedig y crys gwyrdd olewydd - fy hoff liw. Hwrê!
Thursday, October 11, 2012
er cof am t.llew
Dw i newydd ddarllen y newyddion am gystadleuaeth er cof am T. Llew Jones. Gobeithio bod yna awdur/awduron sy'n medru sgrifennu storiâu cystal â fo. Byddai hyn yn gamp; byddai'n anodd ei guro. Pwy ddwedodd bod storiâu da i blant yn apelio at oedolion hefyd? Cytuno'n llwyr - yn enwedig rhai Cymraeg gan fod dysgwyr yn darllen storiau i blant yn aml. Dw i byth yn anghofio pan ddarllenais i un o'i nofelau am y tro cyntaf.
Wednesday, October 10, 2012
cymorth drwy skype
Mae fy merch angen help efo ei gwaith cartref yn aml (mathemateg.) Mae ei thad neu ei chwaer hyn yn ei helpu fel arfer. Mae o yn Japan yr wythnos yma ac roedd ei chwaer yn gweithio yn Braum's pan roedd hi angen help un noson. (Fedra i ddim, chi'n gweld.) Pan oeddwn i'n sgwrsio efo'r gŵr, dyma hi'n dod a gofyn a allai hi siarad â'i thad. Llwyddodd i gael cymorth wrth ddangos ei phapur ato fo drwy'r camera!
Tuesday, October 9, 2012
celf ewinedd
Mae fy merch wrthi. Bydd hi'n dysgu sut i'w wneud ar You Tube. Roedd hi'n defnyddio papur newydd i roi llythrennau ar ei hewinedd o'r blaen Y tro hwn, darluniodd golwg yn y nos efo lleuad gilgant arnyn nhw. Mae hi'n hoff iawn o ddarlunio, a dyma gynfasau bychan iddi hi.
Monday, October 8, 2012
hidlen dŵr
Aeth tri o aelodau'r eglwys i Haiti i balu ffynhonnau a dychwelyd yn ddiweddar. Aethon nhw â pheiriant cloddio sydd yn gweithio'n effeithiol iawn a llwyddo i balu nifer o ffynhonnau dros y bobl sy'n dal i ddioddef yno. Dangoson nhw "welltyn" dyfeisgar hefyd; hidlen dŵr ydy o. Mae o'n medru hidlo dros 700 litr o ddŵr budr. Bydd o'n help enfawr i bobl sydd heb ddŵr glân. Er mwyn dangos sut mae o'n gweithio, yfodd un o'r tri ddŵr a gasglwyd yn ffrwd y dref. (Gweler lliw'r dŵr!)
Sunday, October 7, 2012
3 - 1
Enillodd tîm fy mab am y tro cyntaf! Y tro hwn roedd nerth y tîm arall yn gyfartaledd â ni ac roedd ein hogia ni'n ardderchog. Mi wnes i e-bostio at y gŵr a oedd newydd gyrraedd Japan. Drueni ohono fo'n methu rhannu'r fuddugoliaeth gyntaf efo nhw. Roedd yn oer a gwlyb gyda llaw!
Saturday, October 6, 2012
'dyn' rhagolygon y tywydd ifancaf
Dim ond 12 oed ydy Tomoki Kai (fy nghyfenw cyn priodi!) sydd newydd basio prawf rhagolygon y tywydd yn Japan. Fo ydy'r ifancaf a gyflawnodd y gamp. Mae pump y cant yng nghyfartaledd yn pasio'r prawf caled bob blwyddyn. Roedd o'n wastad ymddiddori yn y tywydd wedi cael ei gyfareddu gan symudiadau cyflym y cymylau pan oedd o yn yr ysgol feithrin. Mae o wedi bod yn astudio'n ddyfal, a llwyddodd ar ei bedwaredd cais. "Roedd yn galed ond hwyl oherwydd fy mod i'n gwirioni ar y pwnc," meddai. Mae o eisiau gweithio i asiantaeth feteoroleg Japan neu wneud y gwaith ymchwilio yn y dyfodol.
Friday, October 5, 2012
tebyg iawn
Thursday, October 4, 2012
gorsaf tokyo
Pan welais yr orsaf ym mis Mawrth, roedd hi'n dal o dan orchudd (y llun) ond clywais i ei bod hi newydd orffen. Mae hi'n edrych yn arbennig o brydferth. Wedi clywed bod y teil a wnaed yn Ishinomaki (y dref a gafodd ei dinistrio gan y tsunami) eu defnyddio ar y to, mae'r gŵr yn awyddus i ymweld â'r orsaf tra bydd o yn Japan yr wythnos nesaf.
Wednesday, October 3, 2012
y wers olaf
Dw i wedi bod yn dilyn gwersi Eidaleg dyddiol ar lein a gynhyrchwyd gan NHK o Japan. Dechreuon nhw ym mis Ebrill a heddiw oedd y wers olaf gan Sayano Osaki, y tiwtor. Dechreuodd hi o'r dechrau efo help Eidalwr. Mae hi'n medru esbonio'r gramadeg yn dda ac er bod bob gwers yn para ond 15 munud, dw i wedi dysgu gryn dipyn. Bydd cwrs newydd yn dechrau'r wythnos nesa ymlaen efo tiwtor arall a phara am chwe mis. Byddai'n colli Ms. Osaki.
Tuesday, October 2, 2012
cacen benblwydd
"Wnei di gynnig y rhain i'r bobl?" meddai mam ifanc yn ystod yr amser coffi cyn y gwasanaeth boreol. Mae ei babi bach newydd droi'n flwydd oed; cupcakes penblwydd oedden nhw. Roedden nhw'n edrych yn arbennig o dda, yn enwedig yr eisin glas a oedd yn ymddangos union fel ffwr Cookie Monster. Y tad a wnaeth, wir i chi!
Monday, October 1, 2012
anifeiliaid anwes?
Mae fy ail ferch yn dal yn gweithio yn Corea. Cawson ni sgwrs Skype am y tro cyntaf ers wythnosau. Mae ganddi hi anifeiliaid anwes newydd ac roedd hi eisiau inni ddyfalu beth ydyn nhw. Roedd yn anodd credu bod ganddi unrhyw anifail gan ystyried pa mor brysur ydy hi. Wedi inni fethu rhoi'r ateb cywir, datguddiodd hi ei "hanifeiliaid" - ddwy falwoden. Cafodd yr ysgol nhw i'r plant ond doedd neb yn gofalu amdanyn nhw ac roedden nhw'n newynu. Penderfynodd hi eu "mabwysiadu" (efo caniatâd yr ysgol.) Gallai hi eu gadael nhw yn yr ardd unrhyw adeg wrth gwrs, ond am y tro, nhw ydy ei hanifeiliaid anwes.
Subscribe to:
Posts (Atom)