Thursday, October 18, 2012

tŷ bwyta newydd

Mae'r tŷ bwyta hwn yn y dref ers blynyddoedd, ond roedd dyma'r tro cyntaf i mi fynd yno. Roeddwn i a'r teulu eisiau trio rhywle newydd, a phenderfynon ni brofi'r tŷ bwyta bach teuluol hwn sydd gan ond un cogydd ac un weinyddes. Roedd eu carped newydd gael ei olchi, felly roedd i'r cwsmeriaid eistedd at y byrddau wrth y waliau. Dechreuais i feddwl a oedden ni'n gwneud camgymeriad, ond ces i fy siomi ar yr ochr orau! Roedd y cawl tatws a'r frechdan gyw iâr wedi'i thostio'n anhygoel o dda. Roedd pob un o'r teulu'n fodlon efo ei fwyd hefyd. Doedd ryfedd bod y lle yn llawn erbyn i ni orffen. Mae gen i ffefryn newydd bellach.

2 comments:

Rhys Wynne said...

Gwers i ni gyd am fod tipyn bach mwy mentrus! Pwy o wyr faint o lefydd bach da fel hyn sy o dan ein trwynau ond bod ni'n rhy stuck in our ways i fynd allan a'u profi?

Dw i ar teulu newydd symud i fyw i Rhuthun yn y gogledd (un o Ddinbych gerllaw ydw i'n wreiddiol, ond wedi byw yn y brifddinas ers dros ddegawd), felly dan ni'n araf bach yn profi'r caffis a'r bwytai i gyd - mae digon o ddewis chwarae teg.

Emma Reese said...

Gobeithio yr eith popeth yn iawn. Mi wnes i basio drwy Ruthun ar y bws flynyddoedd yn ôl.