Sunday, June 30, 2013

fenis 24 - vu compra



Gelwir yn vu compra gan y trigolion oherwydd mai dyna beth maen nhw'n ei ddweud wrth siaradwyr Eidaleg yn hytrach na vuoi comprare (ti isio prynu). Clywais yn aml, "you want to know how much this costs?" Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n dod o Senegal a Bangladesh, ac yn gwerthu bagiau brand ffug. Maen nhw'n agor eu "siopau" ar y llefydd strategol - ffyrdd, caeau a phontydd prysur yn gwaethygu'r tagfeydd. Maen nhw'n diflannu gyda eu nwyddau ar olwg yr heddlu ond dod yn ôl cyn gynted ag y bydd popeth yn iawn. Unwaith roedd rhaid i mi gerdded drwy grŵp sydd yn dal eu nwyddau yn y cysgod ac aros i'r heddlu fynd oddi ar Bont Scalzi. Bob dydd maen nhw'n gadael tomen o hen bapur newydd a ddefnyddiwyd fel stwffin ar eu hôl nhw ym mhob man. 

Saturday, June 29, 2013

fenis 23 - il ponte dell'accademia


Byddai cwpl yn dod i Fenis;
bydden nhw'n sefyll ar Bont Accademia;
bydden nhw'n sgrifennu eu henwau ar glo clap;
bydden nhw'n ei osod ar reilen handi'r ganllaw;
bydden nhw'n taflu'r goriad yn y gamlas o danyn nhw;
bydden nhw'n cerdded i ffwrdd wedi sicrhau eu cariad.

Byddai swyddogion y dref yn dod at y bont;
bydden nhw'n torri'r clo clap ynghyd â'r miloedd eraill sydd yn pwyso'r bont;
bydden nhw'n eu casglu a cherdded i ffwrdd efo llond bag o fetalau.

Byddai cwpl arall yn dod i Fenis.....

Friday, June 28, 2013

fenis 22 - llwybrau


Un o'r pethau pleserus yn Fenis ydy bod hi'n gymharol fach a nad oes ceir yn y dref. Cewch chi gerdded o ben i gynffon y pysgodyn mewn oriau a heb boeni amdanyn nhw. "Cerddwch heb fap a mwynhewch â mynd ar goll; i be' dach chi'n brysio?" dwedodd blogwr adnabyddus. Rhaid cyfaddef fy mod i'n methu'n llwyr o ran hynny achos bod gen i gymaint i'w weld ar fy rhestr. Ar y llaw arall, llwyddais fynd ar goll hyd yn oed efo map! Rhai pethau negyddol ydy yn ystod y dydd mae'r llwybrau culion yn gorlifo efo twristiaid a'r trigolion sydd yn gorfodi eu hosgoi. Mae yna gynifer o ysmygwyr sydd yn smygu wrth gerdded! A does dim lle i ddianc. Mae sbwriel a baw cŵn yn broblemau mawr hefyd.

Thursday, June 27, 2013

fenis 21 - acqua alta (penllanw)


Mae Acqua Alta'n broblem ddifrifol yn Fenis bob blwyddyn ond dydy o ddim yn digwydd ym misoedd hafaidd - fel arfer. Digwydd wnaeth fodd bynnag ddyddiau ar ôl i mi gyrraedd yno. Roedd o'n para am ddri diwrnod hyd yn oed. Dwedodd ffrind mai am y tro cyntaf ers 20 mlynedd fod o wedi digwydd ddiwedd mis Mai; ers 200 mlynedd yn ôl y llall! Pwy bynnag oedd yn gywir, roeddwn i'n hollol amharod am y ffenomen unigryw honno ac am y tywydd oeraidd a oedd yn para hyd at ddiwedd fy mhythefnos. Tua deg o'r gloch am dair noson clywais y seiren iasol sydd yn rhybuddio'r bobl am ddyfodiad Acqua Alta. Yn ffodus aeth i lawr erbyn y bore wedyn bob tro yn yr ardal roeddwn i'n aros ynddi, felly doedd dim rhaid i mi gerdded drwy'r dŵr budr. Gosodai llawer o drigolion ddrysau metelaidd isel penodol er mwyn amddiffyn eu cartrefi fel gweler yn y llun uchod.

Wednesday, June 26, 2013

fenis 20 - i miracoli


Mae'r eglwys hon yn edrych fel blwch trysor -  Santa Maria dei Miracoli. Un o fy ffefryn ydy hi. Mae gan farmor tu allan a thu mewn arlliw anhygoel. Mae yna risiau sydd yn arwain at yr allor syml. Mae popeth mor ddel fel nad oes ryfedd fod llawer o ferched eisiau priodi yn yr eglwys yma. Pasiais hi sawl tro. Unwaith es i o gyfeiriad arall a chael fy synnu'n bleserus yn ei gweld hi'n hollol sydyn wrth droi'r gornel.

Cafodd un o fy hoff ffilmiau eraill ei saethu yn y campo gerllaw - Bara a Thiwlipau. Roedd yna siop blodau lle mae'r prif gymeriad yn gweithio ynddi, ond mae hi wedi hen fynd.

Tuesday, June 25, 2013

fenis 19 - hufen iâ


Er bod siopau hufen iâ ym mhob man ac mae llawer ohonyn nhw'n dangos eu melysion oer lliwgar tu ôl y ffenestri'n ddeniadol, penderfynais ymlaen llaw i fynd i'r siop fach hon. Gelateria Alaska ydy'r enw ac mae hi'n anodd ei ffeindio ymysg y llwybrau culion cymhleth (fel llawer o lefydd eraill yn Fenis!) Darllenais amdani hi a'r perchennog, Carlo Pistacchi (enw addas!) yn y llyfr diddorol a sgrifennwyd gan Americanwr a oedd yn byw yn Fenis am flwyddyn. Mae Carlo'n defnyddio ond cynhwysion naturiol a thymhorol. Roedd fy hufen iâ pistasio a mefus yn hynod o braf heb liw ffug. Pan ddwedais wrtho fo am y llyfr, gofynnodd, "pa un?" Mae Alaska'n cael ei thrafod gan nifer mawr o gylchgronau a theithlyfrau yn y byd gan gynnwys Japan.

Monday, June 24, 2013

fenis 18 - hela'r trysorau

Yn ogystal â mynd at y llefydd sydd yn gysylltiedig â fy hoff lyfrau a ffilmiau, roeddwn i'n "hela"y trysorau a ddisgrifiwyd gan rai blogwyr - dolenni drysau celfydd, bas-reliefs, golygfeydd penodol a mwy. Tra bod rhai yn amlwg, roedd y lleill yn hynod o anodd darganfod. Methais ffeindio'r wal â pheli magnel, bwledi, ayyb a adawyd gan fyddin Awstria. Roedd bron i mi roi'r gorau i weld y bas-relief allanol mwyaf prydferth yn Fenis pan oeddwn i yn Campo SS Giovanni e Paolo oherwydd mai mewn lle anhysbys mae o. Darganfod wnais yn y diwedd. Mae o'n hardd. Ar ben drws blaen y tŷ wrth Ponte Cavallo mae o, os oes diddordeb gan neb.

Sunday, June 23, 2013

fenis - 17 santa maria della salute


Un o'r adeiladau mwyaf adnabyddus a godidog yn Fenis ydy'r eglwys yma. Mae'r golygfeydd tuag ati hi oddi ar Bont Academia wedi cael eu troi'n nifer mawr o gardiau post. Does ryfedd chwaith. Bob tro cerddais ar y bont honno, fedrwn i ddim peidio sefyll a'i hedmygu. Es i'w gweld sawl tro a chael fy nharo bob tro gan yr olwg gyntaf a ges i ar ddiwedd y llwybr dan adeilad. Es i mewn sawl tro hefyd gan mai rhad ac am ddim ydy'r mynediad. Un noson eisteddais yn ystod y Llaswyr yno, fy mhrofiad cyntaf, a chlywed y lleill yn llafarganu'r un ymbil ar y Forwyn Fair ganwaith.

Saturday, June 22, 2013

fenis 16 - cinio


Wedi dyddiau ers dechrau'r cwrs Eidaleg, es i a rhai o'r ysgol i dŷ bwyta am ginio arweiniwyd gan bennaeth yr ysgol sydd yn ferch leol hynod o glên. Mae La Zucca mewn ardal ddistaw ac agos i San Giacomo dall'Orio. Ces i benwaig ar ben tatws a dysgl arall o artisiog. Oherwydd nad oedd gwraig un o'r myfyrwyr yn dysgu Eidaleg, roedden ni'n siarad yn Saesneg. Gofynnodd yr Americanes honno i bawb, "dach chi wedi darllen y nofelau gan Donna Leon?" Gallwch chi ddychmygu beth ddwedais! Roeddwn i newydd fynd i weld fflat Brunetti. (Welais mo'i enw dan unrhyw gloch y drws yno fodd bynnag!) Dangosais y lluniau i gyd iddi hi ac roedden ni'n ffrindiau da ar unwaith.

Friday, June 21, 2013

fenis 15 - ganzer


Pan oeddwn i'n cerdded ar Riva degli Schiavoni gwelais nifer o gondole'n cyrraedd y safle ger Gwesty Danileli. Pwy oedd yno ond y ganzer a sgrifennodd Fausto, blogwr adnabyddus o Fenis amdano fo. Roedd o wrthi'n sicrhau'r gondoli sigledig efo ei fachyn a helpu'r cwsmeriaid i gamu ar y cei'n ddiogel. Yn ôl Fausto, gondolieri wedi'u hymddeol ydy ganzer, ac maen nhw'n gweithio ar brif safleoedd. Gwelais het â'i wyneb i waered gerllaw, ond doedd neb yn taflu cil-dwrn ynddo fo.

Thursday, June 20, 2013

fenis 14 - gondolieri


Ffigwr eiconig Fenis, mae'r gondolieri yn tynnu sylw lle bynnag maen nhw. Roeddwn i wrth fy modd yn eu gweld nhw'n rhwyfo'n fedrus ar y camlesi cymhleth neu Gamlas Fawr. Gwelir yn aros am gwsmeriaid hefyd; byddai rhai'n eistedd wrth safle'n darllen papur newydd; byddai rhai'n sefyll ar bont yn feddylgar; byddai'r lleill yn galw "gondola!" at dwristiaid sydd yn pasio. Clywais fod yna gondoliere benywaidd gyntaf ond welais mohoni hi.

Wednesday, June 19, 2013

fenis 13 - gondola (fideo)

Fel dwedais yn y post diwethaf, gallai gondola ymddangos yn sydyn heb rybudd. Byddwn i'n sefyll wrth gamlas yn gweld rhywbeth; yn hollol sydyn, gwelwn i ar gongl fy llygad ferro'r gondola'n ymddangos oddi wrth y wal dilynwyd gan weddill o'r cwch - y cwsmeriaid ac wedyn y gondoliere wrth y starn. Bydden nhw i gyd yn pasio'n esmwyth. Hyn ydy un o fy atgofion mwyaf pleserus yn Fenis.


Tuesday, June 18, 2013

fenis 12 - gondola


Er es i ddim ar fwrdd gondola "go iawn", roedd yn bleserus dod ar ei draws wrth i mi gerdded ar hyd y camlesi neu fynd dros ddi-ri o'r pontydd - cwch unigryw Fenisaidd; du a syml tu allan ond lliwgar a moethus tu mewn. Weithiau bydd hi'n ymddangos o'r gongl yn sydyn; weithiau bydda i'n clywed llais gondoliere wrth iddo rwyfo; weithiau bydd canwr arbennig o dda'n canu dros gwsmeriaid ar fwrdd fflyd o gondole. Ac weithiau bydd yna dagfeydd yn y camlesi poblogaidd, ond welais erioed damwain. Mae sgiliau'r gondolieri heb eu hail.

Monday, June 17, 2013

fenis 11 - mynd ar y gondola

Doeddwn i ddim eisiau talu €80 am y profiad Fenisaidd hwn am 40 munud. Mae yna ddigonedd o dwristiaid sydd yn fodlon, felly gobeithio nad oedd fy narbodaeth wedi amddifadu gondoliere ei incwm. Ces i dipyn o flas ar daith sydyn serch hynny. Ddim gondola go iawn oedd hi a dweud y gwir ond traghetto sydd yn gwch cyhoeddus ar gyfer croesi Camlas Fawr. Mae yna saith safle; cychwynais in San Toma i gyrraedd San Angelo. Talais €2 am y daith gyflym (3 munud) ond pleserus. Roeddwn i'n sefyll wrth gwrs; dim ond pobl oedrannus, plant a thwristiaid a eisteddai.


Sunday, June 16, 2013

fenis 10 - summertime

Saethwyd "yr olygfa gamlas" ar ochr Campo San Barnaba. Mae'r dŵr yn ofnadwy o fudur; does ryfedd bod Hepburn wedi dal clefyd y llygaid wedi gorfod syrthio ynddo. Welais ffiol goch sydd yn debyg i hon yn y ffair hen bethau yno un diwrnod.

Er gwaetha'r plot ystrydebol, dw i'n hoffi'r ffilm hon oherwydd dangosir Fenis yn annwyl iawn. Es i at lawer o lefydd saethwyd y ffilm ynddyn nhw, a rhyfeddu. Dilynais y ffordd a gymerwyd gan Hepburn at Basilica di San Marco. (Mae hi'n mynd at y cyfeiriad tu chwith ar y dechrau cofiwch; roedd y cyfarwyddwr eisiau dangos wyneb yr eglwys enwog ac wyneb Hepburn ar yr un pryd tybiwn i.) Roedd y clychau'n canu hyd yn oed, ond ces i fy siomi'n ofnadwy wrth weld prif adeilad Fenis dan hanner gorchudd oherwydd gwaith adfer.

Saturday, June 15, 2013

fenis 9 - campo san barnaba


Er nad ydy o ar restr "10 peth i weld yn Fenis," Campo San Barnaba ydy un o'r llefydd roeddwn i'n mynd atyn nhw'n aml oherwydd yr arwyddocâd personol ac oherwydd ei fod o'n bwynt traffig (pedestraidd wrth gwrs) cyfleus. Mae yna la Barca, siop lysiau mewn cwch ar y gamlas; prynais fefus anhygoel o felys yno. Yn y campo hwn saethwyd dwy ffilm enwog: Indy Jones and the Last Crusade; Summertime. Does gen i fawr o ddiddordeb yn y cyntaf ond yn y llall.

Friday, June 14, 2013

fenis 8 - cappuccino

Un o'r pethau pleserus roeddwn i'n ei wneud bron bob dydd oedd cael paned o gappuccino sydyn wrth sefyll at gownter siop goffi cyn mynd i'r dosbarth. Mae llawer o bobl leol yn llenwi'n llythrennol y siopau bach cyn wynebu'r diwrnod. Mae yna fyrddau tu mewn wrth gwrs ond mae'r rhan fwyaf yn llyncu eu coffi (a bwyta cornetto neu ddau) ar eu traed. Pan ofynnais am goffi am y tro cyntaf, roeddwn i'n anghofio mai espresso ydy coffi yn yr Eidal. (Rhaid archebu caffè americano neu caffè lungo os dach chi eisiau coffi gwan.) Fe wnes ei sipian yn araf rhwng darnau o gornetto. O bryd ymlaen, byddwn i'n rhoi €1.30 yn fy mhoced a cherdded at un o'r siopau bach roeddwn i wedi eu darganfod am baned o gappuccino hyfryd (ar fy nhraed wrth gwrs) ar ddechrau'r diwrnod.

Thursday, June 13, 2013

fenis 7 - methu datgloi'r drws


Roedd fy llety efo merch sengl leol yn wynebu'r orsaf trên a chyfleus iawn. Gan fod yna ychydig o dai bach cyhoeddus ac mae hi'n costio €1.5 bob tro, es i'n ôl at y fflat yn aml er mwyn defnyddio fy un i. Bach ydy Fenis wedi'r cwbl. Roeddwn i'n sylweddoli ddiwrnod cyntaf, fodd bynnag, bod fy agoriad i'r drws blaen ddim yn ffitio'r twll clo'n dda. Dair gwaith methais yn llwyr datgloi'r drws ac roedd rhaid gofyn am help gan bobl leol a oedd yn digwydd bod gerllaw - dynes y post, gweithiwr tai a pherchennog y bwyty drws nesaf. Pan lwyddodd yr olaf ar ôl cryn dipyn o ymdrech, ces i gymeradwyaeth frwd gan gwpl Americanaidd a oedd yn eistedd at fwrdd wrth ymyl y drws! Oherwydd lleoliad y fflat, dw i'n ofni fy mod i wedi darparu golygfa ddifyr i gannoedd o bobl. Ces i agoriad gwell y noson honna.

llun: Ponte degli Scalzi ger y fflat

Wednesday, June 12, 2013

venis 6 - happy hour (17:30 - 19:30)


Oherwydd fy mod i'n gyffro i gyd yn fod yn Fenis o'r diwedd, cerddais am chwe awr brynhawn cyntaf yn dilyn fy rhestr. Falch iawn o wisgo esgidiau hynod o gyfforddus! Mae yna dŷ bwyta lle cewch chi un ddiod a chymaint bynnag o cicchetti dach chi eisiau am €8 rhwng 17:30 a 19:30 (os dach chi'n medru ei ffeindio fo!) Yn ffodus llwyddais i gyrraedd Taverna del Remer. Wrth sipian fy Spritz cyntaf, bwytes ddarnau amrywiol o fwyd blasus. Cewch chi weld Ponte di Rialto o lan y camlas o flaen y bwyty.

Tuesday, June 11, 2013

venis 5 - heddlu

Cynhaliwyd y dosbarthiadau rhwng 9:30 ac 1:00 bob dydd. Treuliais y prynhawniau'n ymweld â nifer mawr o lefydd. Y lle ar ben fy rhestr oedd Heddlu San Marco lle mae gan Commissario Brunetti ei swyddfa. Edrychais yn fanwl ar yr adeilad, y cwch modur, Eglwys San Lorenzo, tŵr goleddol Eglwys Groeg a'r golygfeydd cyfarwydd eraill yn y nofelau. Trueni nad oedd yn bosibl ei gyfarfod!


Monday, June 10, 2013

fenis 4 - dosbarth cyntaf


Dechreuwyd y cwrs Eidaleg y bore wedyn. Mae'r ysgol fach yn Campo San Stin yn agos iawn - dim ond pum munud oddi wrth y llety - ond cymerodd dri diwrnod cyn i mi fedru cyrraedd yno heb golli fy ffordd. Roedd yna ddau arall yn fy nosbarth, un o UDA a'r llall o'r DU a ddysgwyd gan ddau athro ardderchog. Er fy mod i'n dysgu Eidaleg ar fy mhen fy hun ers dwy flynedd, roedd dyna'r tro cyntaf i mi gael sgyrsiau Eidaleg o ddifri. Gan fod y dysgwyr eraill yn brofiadol, roedd yn dipyn o her i mi. Roedd pawb yn glên iawn fodd bynnag, ac aeth popeth yn iawn.

llun: Campo San Stin, "maes" bach ger Eglwys Frari sydd yn un o'r adeiladau mwyaf yn Fenis

Sunday, June 9, 2013

fenis 3 - co-op

Ar ôl siarad efo dynes y fflat, es i Co-op ger Piazzale Roma i brynu bwyd. Ces i fenthyg troli siopa ganddi hi a theimlo'n fodlon bod gen i droli fel y bobl leol. Roedd Co-op yn llawn dop efo twristiaid yn ogystal â'r bobl leol. Roedd popeth yn edrych yn rhyfeddol. Roeddwn i'n bwriadu bwyta uwd i frecwast, ond dwedodd gweithiwr y siop nad oes ganddyn nhw geirch. (Does gan yr archfarchnad eraill ddim chwaith.) Prynais rawnfwyd sych yn ei le. Cychwynnais yn ôl efo troli llawn. Dyma'r broblem; mae gan bob pont grisiau. Mae yna ddwy bont rhwng Co-op a'r fflat. Does ryfedd bod trigolion Fenis yn ffit!


Saturday, June 8, 2013

fenis 2 - cyrraedd


Aeth popeth yn gyflym ym Marco Polo, a ches i'r bws uniongyrchol i Piazzale Roma. Er fy mod i wedi clywed bod yna dagfeydd ar y ffordd oherwydd gwaith heol, doedd dim problem a chyrhaeddodd y bws mewn 15 munud. Camais allan o'r bws a cherdded tuag at fy llety. Dyma oedd Fenis o dan yr haul disglair: dorf, stondinau, siopau, adeiladau hynafol, eglwysi, camlesi, pontydd, cychod modur swnllyd ac wrth gwrs y gondole. Tynnais ddwsin o luniau cyn cyrraedd y llety.

Friday, June 7, 2013

yn ôl o fenis


Wedi pythefnos hapus yn Fenis, des i'n ôl yn ddiogel. Roedd yn brofiad anhygoel o hyfryd, ac eto mae'n braf bod gartref efo'r teulu. Treuliais ddiwrnod cyfan ddoe heb wneud dim byd ond trefnu'r lluniau a dynnais, rhyw 800. Dyma gychwyn adrodd fy hanes fel arfer. Gobeithio na fydda i'n gwneud gormod o gamgymeriadau gan fy mod i wedi byw cyfan gwbl yn Eidaleg am sbel.

Hedfanais ar Awyr Swis am y tro cyntaf o Chicago i Zurich ac wedyn i Faes Awyr Marco Polo. Maen nhw'n wych - y criw, gwasanaeth a phob dim. Mae'r criw i gyd yn siarad sawl iaith "heb battio llygad." Siaradodd un ohonyn nhw hyd yn oed yn Japaneg efo fi! (A ches i ryw ddwsin o siocled bach blasus ganddi hi!)