Tuesday, September 30, 2014

cyflwyno cymru

Mae'n ddiwrnod cofiadwy yn y dref dw i'n byw ynddi heddiw - siaradwyd Cymraeg yn gyhoeddus am y tro cyntaf! Cyflwynodd fy merch a'i ffrind Gymru i'r dosbarth ieithoedd lleiafrifol. Dechreuodd fy merch y sesiwn gan ddweud, "bore da. ____ dw i. Dw i'n dysgu Cymraeg. Dw i'n mynd i Gymru flwyddyn nesaf." Ar ei chrys (fy un i) dwedodd, "Cymraeg - o bydded i'r hen iaith barhau ...." Fe wnaeth y merched power point a siaradon nhw am Gymru a'r Gymraeg ac ateb cwestiynau dros awr. Da iawn genod!

(Fedrwn i ddim cysylltu รข'r rhyngrwyd drwy'r dydd. Dyna pam mod i'n postio'n hwyr.)

2 comments:

Yvonne said...

Well done to your daughter!

I give her a gold star, just like her mamma. :-)

Emma Reese said...

Waaai, grazie mille Yvonne! I shall tell her. I'm sure she'll be delighted.