Wednesday, April 25, 2018

96 oed

Mae fy mam yn 96 oed heddiw. Ymwelodd ei dwy wyres â hi i ddathlu ei phen-blwydd. Anrheg go arbennig oedd casgliad o luniau'r teulu mewn ffurf bwrdd neges. Roedd hi'n hapus dros ben. Edrychwch ar ei "gwenu miliwn doler." Er bod ganddi osteoporosis, mae hi'n dal yn sionc yn ei meddyliau. Mae hi'n anelu at ei phen-blwydd canmlwyddiant bellach!

2 comments:

Digitalgran said...

Llongyfarchiadau i'ch mam Emma. Mae hi'n edrych yn dda iawn a hapus.

Emma Reese said...

Diolch yn fawr!