anrheg hyfryd
Ces i anrheg hyfryd o Israel gan fy merch. Ar wahân i garreg fach o Shtula efo enw'r gymuned yn Hebraeg arni hi, ces i bethau eraill - persawr (spikenard,) sebon, cwpan coffi a chactws wedi'i wau. Cafodd y ddau olaf eu gwneud gan yr henoed yn Yad Lakashish. Mae'r sefydliad hwnnw'n helpu'r henoed yn ardal Jerwsalem drwy roi cyfle iddyn nhw greu eitemau a'u gwerthu. Mae'r eitemau'n hynod o boblogaidd fel anrhegion, ac mae nifer o bobl yn Israel a thu hwnt yn dod i weld y gweithdy a'r siop.
No comments:
Post a Comment