tlws crog
Ces i anrheg gan y gŵr yn annisgwyl ddoe. Tlws crog hardd a wnaed yn Israel. Mae'r crefftwr yn gwneud eitemau hardd o fetel y rocedi a lansiwyd gan Hamas, a ffrwydrwyd yn Israel. (Roedd gen i un arall mewn ffurf Seren Dafydd, ond collais o yn anffodus.) Ffurf tir cyfan Israel ydy hwn. Dywedir yn Hebraeg ar y wyneb, "mae cenedl Israel yn byw" efo gwydr glas bach i ddangos lle cafodd ei wneud. Bydd rhan o'r elw'n mynd i adeiladu llochesi bom sydd yn amddiffyn y trigolion ger Gaza rhag rocedi Hamas.
No comments:
Post a Comment