Thursday, December 26, 2019

anrheg annisgwyl

Daeth fy merch ifancaf adref o Las Vegas wedi treulio amser gwych (a hollol wahanol nag arfer) gyda'i ewythr a'i modryb. Daeth ag anrhegion i ni ganddyn nhw hefyd. Ces i fy sioc bleserus i dderbyn anrheg annisgwyl gan fy chwaer yng-nghyfraith, sef gwydr gwin a brynodd yn Nhwr Trump! Gwydr o safon uwch gyda TRUMP mewn lliw aur wedi'i argraffi'n falch. Bydda i'n ei drysori am oes.

1 comment:

Marconatrix said...

I bawb ei phleser unig felly ;-)