Friday, December 6, 2019

tocynnau kabuki

Mae fy merch hynaf yn mynd i Japan gyda'i gŵr y mis nesaf. Mae hi'n dwlu ar Ebizo, actor Kabuki, a newydd brynu tocynnau i weld un o'i sioeau yn Tokyo. Roedd yn gamp fawr oherwydd ei fod o'n hynod o boblogaidd. Bwciodd hyd yn oed seddau wrth y llwybr blodau (lle mae'r actorion yn cerdded arno fo yng nghanol y gynulleidfa.) Mae hi'n gyffro i gyd!

No comments: