Thursday, December 12, 2019

ffreutur y brifysgol

Ces i swper gyda'r gŵr yn ffreutur y brifysgol neithiwr. Roeddwn i a'r plant yn arfer mynd yno'n aml o'r blaen, ond anghofio roeddwn i nes dyddiau'n ôl. Roeddwn i'n medru dewis bwyd yn ôl cyfyngiad fy alergedd. Wrth iddo ar fin talu, dyma fyfyriwr clên yn rhoi iddo ei docynnau pryd o fwyd diangen! (Diwedd y tymor ydy hi.) Ar ôl y swper, cerddon ni i Neuadd Seminari i weld y goleuadau Nadolig. Roedd lleuad lawn yn ein dilyn ni wrth i ni yrru adref.

No comments: