Roedd sawl dathliad dros y penwythnos diwethaf - dau benblwydd, Sul y Tadau a phenblwydd priodas fy merch hynaf. Er na allodd yr holl deulu fod gyda'n gilydd yn gorfforol, roedden ni'n medru dathlu'r achlysur drwy FaceTime, diolch i'r dechnoleg fodern. Mae fy merch a'i gŵr dal yn Dallas heddiw i fwynhau'r gweddill o'r dathliad.
Monday, June 21, 2021
Saturday, June 19, 2021
rhy hallt
Ces i a'r teulu ein siom. Aethon ni i El Molcajete am y tro cyntaf ers misoedd. Roedd gan y bwyd olwg ac arogl hyfryd, ond roedd popeth yn rhy hallt. Methais fwyta popeth. Doedd y bwrdd ac ati ddim yn edrych yn ddigon glân chwaith. Roedd yr holl weithiwyr yn dal i wisgo mwgwd hyd yn oed. Na fyddwn ni'n dychwelyd yno.
Friday, June 18, 2021
cymru a'r eidal
Ces i fy nrysu braidd pan welais y frawddeg gyntaf honno yn erthygl Cymru Fyw heddiw. Mae hyn yn fy atgoffa i o'r profiad a ges i yn Fenis pan wnes i gyfarfod Bedwyr Williams yn Biennale yn 2013. Methais siarad Cymraeg am sbel oherwydd fy mod i wedi bod yn siarad Eidaleg drwy'r amser am bythefnos wrth wneud cwrs Eidaleg. Roedd o'n hynod o glên, fodd bynnag, yn aros yn amyneddgar nes i fy Nghymraeg ddychwelyd!
Wednesday, June 16, 2021
dal i flodeuo
Tuesday, June 15, 2021
dokudami
Monday, June 14, 2021
Saturday, June 12, 2021
G7
Subscribe to:
Posts (Atom)


