Dw i newydd brofi gwers yr iaith Cherokee (Cherokeg baswn i'n galw.) Roedd hi'n ddiddorol. Mi wnes i glywed Cherokeg am y tro cynta.
Roedd 'na dwsin a hanner o fyfyrwyr ac roedd y tiwtor ifanc yn siarad llawer o Cherokeg yn y dosbarth.
Un peth wnaeth fy ngharo i oedd y faith bod gynni hi "ll" (Ysgrifenir "hla"). Mae un wefan yn dweud: ..others pronounce it as a breathy "l" like the "ll' in the Welsh name "Llywelyn"
Mae gynni hi ferfau cryno hefyd:
A' i - gega
Ei di - hega
Aˆ nhw - anega
Pan ddwedodd y tiwtor "iawn" i'r dosbarth, rôn i'n meddwl iddo ddweud "nos da." "osda" oedd y gair sy'n golygu "iawn"!
Roedd yn brofiad buddiol ond dw i ddim yn mynd yn ôl achos bod y dosbarth yn canolbwyntio ar Cherokeg llafar. Dw i isio gwybod sut i ddarllen y llythrennau ddyfeisiodd Sequoia. Ella wna i hynny drwy llyfrau.
Roedd yn dda cael mynd i'r dosbarth beth bynnag a gweld hefyd bod rhai o Cherokees yn ceisio adfywio eu hiaith.