Wednesday, August 13, 2008

beti bwt a laramie

Dw i newydd orffen darllen Beti Bwt. Nofel am blentyndod mewn pentre yn y Gogledd yn y 50au ydy hon. Mae hi'n fy atgoffa i am Te yn y Grug er bod arddulliau yr awduresau'n hollol wahanol. Mae'n eitha da beth bynnag.

Mae'n anodd i mi gael hyd i lyfrau diddorol sy ddim yn rhy gymhleth na hawdd ar un pryd. Mae'r nofel ma ydy un o'r gorau wnes i 'i darllen yn ddiweddar baswn i'n dweud.

Yn y nofel roedd Beti a'i theulu wrth eu boddau gwilio Laramie. Wel, rôn i a fy nheulu i gyd yn gwirioni ar y rhaglen ma pan ôn 'in blentyn yn Japan hefyd. Roedden ni'n edrych ymlaen ati hi bob wythnos. (Mi gaeth hi ei dabio i'r Japaneg.) Rôn i'n ffan mawr o Jess (Robert Fuller.)

2 comments:

Corndolly said...

A finnau ! Rôn i'n hoffi iawn o Laramie a Jess Harper. Fo oedd yn o fy nghymeriadau ar y pryd. Ond don i ddim yn gwybod dy fod di'n gwylio'r un rhaglen yn Japan

Emma Reese said...

O'n wir! Roedd y rhaglen yn andros o boblogaidd yn Japan yr adeg honno. Dw i'n dal i gofio'r gân (yn Japaneg.)