

Mi ges i a'r teulu ginio heddiw efo rhai o'r myfyrwyr Japaneaidd oedd newydd ddychwelyd o Japan. (Mi gaethon ni un tebyg y llynedd.) Dyma fi'n helpu ffrindiau i ni yn eu fflat bach i fwydo 20 o bobl. Roedd y bwyd yn syml ond blasus a'r cwmni'n ddymunol. Roedd y bobl ifainc yn chwerthin nerth eu ben weithiau. Gobeithio bod yr henoed eraill yn yr adeilad ddim wedi cael braw!
2 comments:
Syndod arall. Wedi dysgu Cymraeg mae Jerry Hunter! Rhaid bod y cwrs Wlpan yn Llanbed yn effeithiol iawn. Dw i'n nabod un neu ddau arall sy wedi llwyddo i ddysgu'n rhugl yno.
'Roedd gan Jerry Hunter gyfres o raglenni ar S4C yn ymwneud a rhan y Cymry yn Rhyfel Cartref America.
Gyda llaw, mae'r bwyd yn edrych yn dda iawn , fel arfer:)
Post a Comment