Wednesday, August 27, 2008

gwers cherokeg

Dw i newydd brofi gwers yr iaith Cherokee (Cherokeg baswn i'n galw.)  Roedd hi'n ddiddorol. Mi wnes i glywed Cherokeg am y tro cynta. 

Roedd 'na dwsin a hanner o fyfyrwyr ac roedd y tiwtor ifanc yn siarad llawer o Cherokeg yn y dosbarth. 

Un peth wnaeth fy ngharo i oedd y faith bod gynni hi "ll" (Ysgrifenir "hla"). Mae un wefan yn dweud:  ..others pronounce it as a breathy "l" like the "ll' in the Welsh name "Llywelyn" 

Mae gynni hi ferfau cryno hefyd:
A' i - gega
Ei di - hega
Aˆ nhw - anega

Pan ddwedodd y tiwtor "iawn" i'r dosbarth, rôn i'n meddwl iddo ddweud "nos da." "osda" oedd y gair sy'n golygu "iawn"!

Roedd yn brofiad buddiol ond dw i ddim yn mynd yn ôl achos bod y dosbarth yn canolbwyntio ar Cherokeg llafar. Dw i isio gwybod sut i ddarllen y llythrennau ddyfeisiodd Sequoia. Ella wna i hynny drwy llyfrau.

Roedd yn dda cael mynd i'r dosbarth beth bynnag a gweld hefyd bod rhai o Cherokees yn ceisio adfywio eu hiaith.

7 comments:

asuka said...

waw - am brofiad arbennig. diolch iti cymaint am ei rannu e 'da ni, emma! 'na diddorol darganfod fod gan eu hiaith nhw sw^n fel "ll" y gymraeg.

Chris Cope said...

Mae hynny'n swnio'n wych. Tybed a allwn ddysgu Sioux petawn i yn ôl ym Minnesota?

Emma Reese said...

Mae' na rai pobl yn credu mai disgynyddion llwyth Mandan ydy Cherokees. Ond wrth gwrs mai hanes arall ydy hynny.

Dw i'n mynd i'r beddau i ddytrys y gyfrinach heddiw.

Emma Reese said...

Pam lai, Chris?

Gwybedyn said...

Diawch, rwyt ti'n symud yn glou, Emma!

Ydw i'n deall yn iawn nad oedden nhw'n defnyddio'r wyddor Sieroci^ (?) o gwbl yn ystod y gwersi?

Ac un cwestiwn arall, os ga' i - pa fath o ddemograffeg oedd i'r gwersi - ife 'brodorion' oedd yn y wers gan mwyaf, neu eraill?

Diolch iti am rannu dy brofiadau!

Emma Reese said...

Dôn i ddim yn gwybod bod y rhan fwya o'r cyrsiau ddim yn defnyddio gwyddor y Cherokee.

Roedd 'na un neu ddau oedd yn edrych fel brodor, ond mae'n anodd dweud pwy ydy pwy. Mae 'na lawer o Cherokees heb olwg brodorol o gwbl. Mae gan y tiwtor llygaid glas a gwallt golau.

Robert Humphries said...

Diddorol iawn, Emma. Os fyddai 'da fi'r amser, byddwn yn ystyried dysgu un o ieithioedd brodorol Wisconsin, fel Hocank (Winnebago) neu Ojibwe. Mae Hocank ar ffin marw allan, ond mae'n bosib nawr i'w dysgu trwy wefan Cenedl y Hocank.