Sunday, September 13, 2009

caer (9/8/09)



Fe wnaeth Judy, Laura a Bryn fy hebrwng i Gaer yng nghar Laura. Newidiodd y golygfeydd o rai Cymreig i rai Seisnig. Gadawais y darn olaf o Gymru wrth ffarwelio â'r tri yng nghanol y dref fawr yn Lloegr.

Roedd gen i dair awr cyn dal y bws uniongyrchol i'r maes awyr. Roedd hi'n ddiwrnod braf. Dechreuais gerdded o gwmpas y dref. Nifer o hen adeiladau mawr, llu o dwristiaid, Saesneg ym mhob man. Gofynais i ddynes am gyfeiriad yn Saesneg. Ces i ateb cwrtais yn Saesneg.

Es i at yr afon agos, Afon Dyfrdwy. Roedd yna lawer o bobl yn ymlacio ar lan yr afon. Ymunais â nhw a chael bicnic bach wrth edrych ar y cychod ar yr afon a gwrando ar gerddorfa a oedd yn chwarae dros y bobl. Roedd yn braf.

2 comments:

neil wyn said...

Lle braf yw Caer, er mae'n dal i fod yn bosib i ladd Cymro yno yn gyfreithlon o dan gysgod nos.... Mae 'na ambell i anacroniaeth sy'n perthyn i'r gyfraith yn Lloegr, er mae'r un yna heb ei gweithredu ers sbel!! Ond mae'n arwydd o'r tyndra a fodolodd yn ardal y gororau am ganrifoedd. O fan'ma dim ond 18 milltir i Gaer ydy o.

Emma Reese said...

Ia wir. Dw i'n cytuno ond well gen i drefi a phentrefi Cymru. : )