Thursday, September 10, 2009

rhydydefaid (8/8/09)


Daeth Olwen, ffrind Judy i fynd â fi i Lyn Celyn yn ei char yn y prynhawn. Y hi a'i gwr sy'n rhedeg llety o'r enw Rhydydefaid yn Frongoch ger y Bala.

Aethon ni i'r ffermdy gyntaf. Saif y ty cadarn yng nghanol y fferm. Mae waliau'r ty mor drwchus ac mae'r rhannau o'r ty yn 400 oed! Er bod hi'n brysur gyda gwaith y llety, paratôdd Olwen de Cymreig (a Chymraeg hefyd) gwych i ni. Na châi gwraig gwely a brecwast eistedd i de'n hamddenol yn hir serch hynny. Roedd hi'n gorfod paratoi at westeion newydd, tynnu dillad gwlâu a thaweli o'r lein a hongian rhai wedi'u golchi arni hi. Dyma ei helpu hi gyda phleser.


2 comments:

Corndolly said...

Dw i wedi rhoi'r wefan 'ma ar fy ffefrynnau rhag ofyn i ni gael amser i fynd i ffwrdd am ddiwrnod neu ddau.

Emma Reese said...

Gwely a brecwast wych ydy o. Dw i'n siwr baset ti'n ei fwynhau.