Monday, April 26, 2010

camp lawn

Fydd y geiriau sy'n dechrau gyda 'rh' a 'll' yn treiglo ar ôl enwau benywaidd unigol neu beidio? Weithiau fedra i ddim cofio rheol syml felly. Does dim eithriad yn cael ei nodi yn fy llyfrau gramadeg (sy'n golygu mai treiglo wnân nhw?) Methais i gael hyd i enghreifftiau ar y we.

A dyma gofio'n sydyn rhaglen Eleri Siôn rhywsut neu'i gilydd: Camp Lawn!
Ar ben hynny, clywais "wythnos lawn" ar y Post Cyntaf ddwywaith y bore 'ma. Gobeithio ceith y rheol ei gwasgnodi ar fy nghof.

3 comments:

neil wyn said...

Dwi byth yn cofio rheolau felly chwaith! Weithiau dwi'n dweud pethau yn fy mhen er mwyn gweld os maen nhw'n swnio'n iawn, ond wrth cwrs nid ffordd dibynnol yw hynny!

('Dyddiau lawer' ydy un enghraifft sy'n codi yn fy meddwl i... ond pam y treiglad ar ol y lluosog, neu ydwi'n cymysgu rheolau?)

Cer i Grafu said...

'Noson lawen', 'Cymru Lan' yn enghreifftiau eraill.

I ateb cwestiwn Neil, mae 'dyddiau lawer' yn enghraifft o ymadrodd enwol cyfosodol lle treiglir yr ail elfen yn feddal. Fe'i gwelir gida'r mesurau amhenodol 'llawer', 'digon' a 'llu' ar ol enwau lluosog ee llongau lu, rhaglenni ddigon, blynyddoedd lawer.

Mae'n digwydd hefyd gydag enwau priod gwrywaidd unigol ee. Iesu Grist, Ioan Fedyddiwr, Ieuan Fardd, Hywel Dda.

Emma Reese said...

Dw i'n credu bod cofio enghreifftiau'n ffordd dda i ddysgu'r rheolau felly.