Thursday, August 19, 2010

breuddwyd americanwr

Fyddwn i ddim am drafod lefel ei Gymraeg na'i sgil actio, ond y ffaith fod o'n medru gweld Pobl y Cwm yn California. Dw i'n dal i gael trafferth gweld S4C ar y we. Byddwn i'n hoffi holi i'r Americanwr sut mae o'n gweld rhaglenni S4C. Hefyd mae'r cynhyrchydd yn swnio fel pe tai gweld Pobl y Cwm yn UDA yn beth cyffredin.

4 comments:

neil wyn said...

Ar ran yr actio Junko, dwi wedi gweld gwaeth ar Bobl y Cwm!

Emma Reese said...

Do wir? Gawn ni weld felly.

Rhys Wynne said...

Dim i'w wneud o'r cfondo yma, ond wyt ti wedi gweld hwn:
http://siondafydd.wordpress.com/
Bolg Cymraeg o Japan

Emma Reese said...

Do wir, Rhys. Ces i air sydyn efo fo hefyd (ar ei flog.) Mae ei luniau'n dda.