Sunday, August 3, 2008

afalau



Mae'n boeth. Crasboeth. 100F yn y cysgod. Mae'r bobl yn diodde ond mae'r planhigion yn hapus, fel y coed afalau ma.

Mae'r ffrwyth yn barod. Maen nhw dipyn yn sur ond ffres. Yn anad dim, maen nhw'n rhad ac am ddim. Mi gawn ni fwyta cymaint â mynnon ni.

18 comments:

asuka said...

gwych - mae'n braf cael casglu dy fwyd dy hunan. mae'r llun 'ma a'r un wrth yr afon mor hyfryd o hafaidd. rwy'n treio penderfynu beth mae dy ferch di'n ei wneud. siarad ar y ffôn afal? gwisgo clustdlysau afal? rhoi iddi ei hunan ryw "facial" afal? ^.^

asuka said...

y ffôn afal wrth gwrs - sef yr i-phone newydd 'na siwr o fod!

Emma Reese said...

Ti'n iawn. Edrych fel tasa hi'n siarad ar ffôn afal mae hi!

Gwybedyn said...

am 'fale hyfryd! Mae'n f'atgoffa o rywbeth ddarllenais neithiwr ym mywgraffiad Byron Rogers o RS Thomas, The Man who Went into the West. Soniai am achlysur lle holai'r hen RS rai o blant yr Ysgol Sul ym Manafon (yn Saesneg): "What kind of tree was in the Garden of Eden?" a phlentyn ffarm yn codi'i law'n syth a rhoi'r ateb "Cookers!".

gyda llaw - fyddet ti'n teimlo'n hapus i dreiglo'r adferf yn y frawddeg "Maen nhw dipyn yn sur"? Byddwn i hefyd yn newid y "cymaint ag y bod ni isio" i "cymaint (ag) (yr) ydyn ni isio"

Am wahaniaeth tywydd! - Yma yn y Canolbarth mae'r tomatos newydd aeddfedu... yn y ty^ gwydr!!!

Emma Reese said...

O, Diolch i ti szczeb. Rôn i'n cael trafferth efo'r frawddeg na, "as much as we want."

Pam rhaid treiglo "tipyn'?

P'un ydy'n well, "afalau sur" neu "aflau egr"?

Be 'di "Cookers"?

Gwybedyn said...

a dweud y gwir, mae'r frawddeg "cymaint..." eto ychydig yn lletchwith - os chwilio am frawddegau mwy idiomatig, cei ddweud "cawn fwyta llond ein bol" neu "cawn fwyta cymaint a^ mynnon ni", etc. Oes cynigion eraill gan rywun?

Rwy'n credu bod "afalau sur" yn well - dydy 'egr' ddim yn air cyfarwydd iawn i mi, ond efallai taw rhywbeth tafodieithol yw hyn.

'Cookers' - 'cooking apples' - afalau mawr, ychydig yn sur, i'w defnyddio i goginio. I bobl a fagwyd yng nghysgod perllan ni fyddai'n ddigon dweud "an apple tree" :)

Mae angen treiglo'r "t" ar flaen 'tipyn' fan hyn oherwydd bod angen dangos taw adferfol sydd yma (dweud sut mae nhw wyt ti, heb ddefnyddio'r geiryn "yn". Cymhara "rydyn ni'n gwneud y gwaith fesul tipyn" neu "gwelais i'r sioe ddoe". Nid yw'r esboniadau hyn yn glir iawn, efallai, ond mae angen y treiglad: "roedd ef dipyn yn well heddiw"; "mae'r tywydd dipyn yn oerach heddiw", etc.

Asuka - fedri di esbonio hyn yn well?

Emma Reese said...

Be am "cymaint"? Ddylwn i ddweud "Mi gawn ni fwyta Gymaint â mynnon ni" felly?

asuka said...
This comment has been removed by the author.
asuka said...

parthed y treiglad ar "dipyn,"

graddolyn yw term peter wynn thomas ar gyfer elfen sy'n goleddfu ansoddair fel'ny.
e.e.
dipyn yn sur
lawn mor sur
yn surach fyth
bedair gwaith yn surach
rhy sur

mae'n draddodiadol galw pob elfen o'r fath yn adferfol, er bod y cwestiwn o dreiglo ar y graddolion yn gyffredinol yn un cymhleth mae'n debyg...

'ta waeth am hyn'na, mae'n ddefnyddiol gen i gofio'r patrwm cyffredin hwn:
enw (neu ymadrodd enwol) wedi'i dreiglo'n feddal + yn + ansoddair
e.e.
dipyn yn sur
bum milltir yn hwy

sori am sgrifennu darn mor hir - a heb egluro pethau ddim! (rwy'n gwybod taw i szczeb rwyt ti'n gofyn ynghylch "cymaint," felly gadawa' i iddo fe ateb.)

Gwybedyn said...

Diolch, Asuka!

Emma - yngly^n a^ threiglo "cymaint" yn y frawddeg "cawn fwyta cymaint ag y mynnon ni": does dim angen treiglad yma achos taw 'gwrthrych' i'r berfenw yw "cymaint ag y mynnon". Does dim treiglad ar 'wrthrych' o'r fath: cf. brawddeg megis "rwy'n leicio te"; "rwy'n leicio cymaint o bethau".

(Ydy hyn yn ateb y cwestiwn?) ^^

Tasai fe'n wrthrych i'r ferf lawn wrth gwrs, byddai'n gwestiwn arall, ond fan hyn "bwyta" sydd yn y slot yna, a'r gair hwnnw eisoes wedi treiglo.

Erika said...
This comment has been removed by the author.
Erika said...
This comment has been removed by the author.
Emma Reese said...

Diolch i chi szczeb ac Asuka. Dw i'n dallt.

enw (neu ymadrodd enwol) wedi'i dreiglo'n feddal + yn + ansoddair
e.e.
dipyn yn sur
bum milltir yn hwy

Mae hyn yn haws cofio.

asuka said...

emma, sa' i am sgrifennu gormod ar dy flog di a mynd yn boring, ond rhag ofn 'mod i'n gweld yn well na szczeb be' sy gen ti mewn golwg gyda'r "cymaint" 'ma, ga' i ychwanegu gair?

yn dy frawddeg di "Mi gawn ni fwyta cymaint â mynnon ni," gwnes innau ddarllen "cymaint â mynnon ni" yn wrthrych i'r berfenw "bwyta" fel szczeb:
•beth ry^n ni'n ei fwyta?
•cymaint (o afalau) â mynnon ni!

a 'sdim rhaid wrth dreiglad ar wrthrych berfenw wrth gwrs.

ond mae'n debyg bod modd gweld "cymaint..." yma yn adferfol hefyd (ac efallai taw dyma sy gan emma mewn golwg), yr un fel y gallet ti weud "Mi gawn ni gysgu cymaint â mynnon ni," er enghraifft. does dim treiglad ar "cymaint..." fan hyn 'chwaith, achos ni fydd gradd gyfartal ansoddair byth yn treiglo pan yn adferfol.
e.e.
oes rhaid iti gysgu cymaint?
dwy erioed 'di cysgu cynddrwg.
down i erioed 'di rhedeg cyhyd â hynny.

Emma Reese said...

Diolch i ti Asuka am egluro hyn. A dweud y gwir rôn i'n meddwl mod i wedi gweld rheol ynglyn ag adferfau rhywle. Ond rhaid mod i wedi drysu.

asuka said...

wel, hollol bosib 'mod i'n hollol rong, cofia! ^o^

asuka said...

ac ydw, rwy'n hollol rong.
byth yn treiglo pan yn adferfol
rwtsh! beth rown i'n feddwl wrth weud rhywbeth mor sili? nid "byth" - jest ddim yn yr enghreifftiau hynny! sori am lygru dy flog hyfryd â'r fath stwff...

Emma Reese said...

od iawn!