Tuesday, August 26, 2008

cyfrinach y bedd


Ddim nofel newydd gan T.Llew Jones ond y bedd John Battrick Jones, mab Evan dw i'n sôn amdano.

Mi ges i hyd i fwy o wybodaeth am y Cymry. Mi wnaethon nhw sefydlu First Baptist Church yn y dre ma. Ar ôl i Evan farw yn 1873, olynwyd y gwaith Cristnogol gan ei fab. Ond buodd o farw o'r diciâu yn 1976 a chael ei gladdu ym mynwent y dre. Yma, yn y dre ma! Fedra i ddim credu hyn. Bydda i'n gyrru heibio'r fynwent bob dydd i gasglu'r plant!

Mi wnes i ofyn i'r eglwys lle yn union mae'r bedd ond does gan yr ysgrifenyddes ddim clem. Dim ots. Roedd rhaid i mi fynd, cyfeiriad neu beidio.

Dyma fi'n cerddedd trwy dros 7,000 o beddau. Wrth gwrs rôn i'n anelu at hen feddau. Ar ôl awr heb lwyddiant, roedd rhaid i mi fynd i gasglu'r plant. Yna, mi ddes i ar draws map y fynwent:

Jones, John Battrick
hefyd
Jones, Rev. Evan

llun: mynwent y dre

2 comments:

asuka said...

stori detectif go iawn! rwy'n ysu am ddarllen y bennod nesa'!

Emma Reese said...

Rôn i isio mynd yn ôl at eu beddau yn syth ond doedd gen i ddim amser. Dw i'n bwriadu mynd eto p'nawn fory.