Monday, August 25, 2008

evan jones

Dw i'n dal mewn sioc. Dw i'n byw mewn tref sy gan gysylltiad efo Cymro mor bwysig er fod o ddim yn gymharol adnabyddus. A dyma fi'n cwyno bod 'na ddim byd Cymreig yn yr ardal ma ers blynyddoedd.

Evan Jones, Cenhadwr o Gymru wnaeth ddysgu darllen a sgwennu'r iaith Cherokee i'r bobl frodorol a chyfieithi'r Beibl iddi hi. Mi wnaeth o deithio efo'r Indiaid ar "Trail of Tears" enwog a gwarthus i'r dre ma. Roedd o'n gweithio'n galed drostyn nhw.

Dôn i erioed wedi ymddiddori yn yr iaith Cherokee ond dw i'n awyddus i drio bellach. Fel mae'n digwydd bod 'na gyrsiau ar gael yn y brifysgol leol. Maen nhw newydd gychwyn, ac bydda i'n cael profi un ohonyn nhw ddydd Mercher! 

Diolch o galon i szczeb wnaeth ddweud wrtha i amdano fo.

11 comments:

asuka said...

sôn am ddiddorol. mae'n gyffrous iawn darganfod bod hanes gymreig gudd (hanes gymraeg hyd yn oed!) i dy dref di. a dyna syniad cyffrous yw dy gynllun o ddysgu cherokee yn y brifysgol!
on'd yw'n rhyfeddol ffordd mae pethau'n gweithio - cymro yn ymddiddori flynyddoedd yn ôl yn sefyllfa'r bobl cherokee ac y ti, heb fawr o gysylltiad â chymru, yn canlyn diddordeb yn gymraeg ac yn niwylliant cymru, ac nawr yn cael dy dywys o bosibl i mewn i faes yr iaith cherokee!

Emma Reese said...

Rhyfeddol dros ben. Dw i'n edrych ymlaen at gael dysgu'r 'Cherokeg' er mod i ddim yn bwriadu treulio gormod o amser ynddi hi. Mi ga i ofyn i'r tiwtor am sefyllfa'r 'Cherokeg' hefyd.

Corndolly said...

Mae Asuka wedi dweud popeth yma ! Mae'n anhygoel bod 'na gysylltiad mor agos atat ti yn dy dref, heb i ti wybod. Dwi'n edrych ymlaen at ddarllen am dy brofiad yn y brifysgol.

Emma Reese said...

Ac bydda i yn yr adeilad del wnes i ddynnu llun ohono.

Gwybedyn said...

hei - am gyffrous! on'd yw'r we'n beth gwych?

os ei di i ymweld â bedd Evan Jones, wnei di geisio cael llun i'w bostio ar y blog, Emma? Byddwn wrth fy modd yn gweld sut le sydd yno.

Rhys Wynne said...

Dyna ryfedd, ar raglen QI neithiwr, roedd cwestiwn am y wyddor Cherokee, ond wrth gwrs doedd dim sôn mai Cymro a'i ddyfeisiodd. Er, pwynt y cwestiwn oedd "beth mae siaradwyr Cherokee yn galw eu hiaith?" Roedd yn trick question, gan na all siaradwyr r iaith ei ynganu (neu rhwybeth felly)!

Emma Reese said...

Sequoya, brodor Cherokee wnaeth dyfeisio'r wyddor ond Evan Jones wnaeth ddysgu darllen a sgwennu'r iaith Cherokee i'r bobl.

Linda said...

Diddorol iawn emma ! Mi wneith hyn dy gadw'n brysurach fyth;)Cofia adael i ni wybod os gei di chwaneg o wybodaeth. Mi fasa'n gwneud erthygl da yn Gymraeg neu yn Saesneg ar gyfer Ninnau neu'r Enfys!

Rhys Wynne said...

Diolch am y cywiriad.

Dw i newydd edrych ar y Wicipedia nac ar y Wikipedia chwaith.

Yn sicr mae'n haeddu erthygl. Os dw i'n dechrau erthygl amdano ar y ddau, fyddai gyda ti ddiddordeb fy helpu i ymhelaethu arnynt?

Mae llyfr wedi cael ei ysgrifennu am ei hanes (gweler).

Emma Reese said...

Mi faswn i'n hapus dy helpu di ond a dweud y gwir, y person sy'n arbenigo ar y pwnc yma ydy Dr. Jerry Hunter ym Mhrifysgol Bangor. Americanwr ydy o, ond mae o wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ac yn dysgu fel athro yn yr adran Gymraeg yno.

Mi wnes i glywed am y llyfr oddi wrtho fo. Dw i'n bwriadu ei ddarllen.

y prysgodyn said...

wow, Emma! Mae hyn mor ddiddorol, a dw i mor falch o ddod ar draws dy flog. Diolch i ti.