Thursday, August 7, 2008

torri gwallt


Mae Kurt, ein dyn trwsio medrus a'i griw wrthi'n gweithio ar ein ty ni. Wedi golchi'r waliau, maen nhw'n llenwi craciau. Yna byddan nhw'n barod i beintio, ond mae 'na storm fawr ar ei ffordd yn ôl rhagolygon y tywydd. 

Wrth weld bod fy merch yn torri gwallt ei thad, wnaeth o ofyn iddi am wasanaeth hefyd. A dyma fo. 

5 comments:

Chris Cope said...

Mae gwen ar wyneb Kurt yn awgrymu taw diwrnod gorau ei fywyd oedd cael torri gwallt.

Emma Reese said...

Roedd o a'i wraig yn hapus efo'r canlyniad.

asuka said...

rwy'n leicio'r llun - mae'n amhosib edrych arno heb wenu.

Emma Reese said...

Dyn trwsio ardderchog ydy Kurt. Dan ni'n dibynnu arno fo bob tro. Ac mae o'n ddoniol!

Corndolly said...

Dw i'n cytuno efo Asuka, mae'n amhosib edrych arno heb wenu. Mae'r llun yma yn gwneud i mi deimlo'n hapus !