Friday, August 29, 2008

y cofiant

Dw i newydd nôl cofiant Evan a John Jones (Champions of the Cherokees) o'r llefrgell leol ac wedi darllen tudalennau cynta bore ma. Mi ges i gymaint o wybodaeth yn barod. Edrycha i ymlaen at ddarllen mwy.

Dw i ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl wrth i mi fwrw ymlaen. Mae 'na un peth dw i'n swir amdano. Hynny ydy mae'r pwnc ma'n rhywbeth gwerthfawr ymchwilio ynddo.

Wnes i ddim rhoi'r gorau i chwilio am fedd John eto. Dw i'n bwriadu mynd cyn gynted a phosib a gosod blodau o flaen y ddau fedd.

3 comments:

asuka said...

tybed a oes angen ymchwilydd yn OK ar jerry hunter?

Gwybedyn said...

bydd pethau'n poethi cyn hir, a dau bellach yn medru'r Gymraeg ac iaith y Cherokee... rhywbeth nas gwelwyd ers i'r hen Evan farw, mae'n siwr!

Emma Reese said...

Mae'ch dychymyg chi'ch dau'n tueddu i redeg yn wyllt!

Dw i'n meddwl bod gan Dr. Hunter ddigon o wybodaeth a chymorth i'w ymchwil yn barod.