Wednesday, October 15, 2008

pot lwc yr ysgol


Pot lwc eto, ia, ond y tro ma yn yr ysgol caethon ni un neithiwr. Roedd 'na lai o bobl nag arfer. Mae'n ymddangos bod nifer mawr o'r teuluoedd wedi gadael am eu gwyliau'n barod. Dechreuoedd gwyliau'r hydref heddiw am bum diwrnod.

Mwffinau efo selsig bach yn eu canol gwnes i. Rôn i'n llwyddiannus y tro ma, ond yn anghofio tynnu llun. (Sori Corndolly!)


4 comments:

asuka said...

mwffinau â sosijus? rwy'n treio eu dychmygu nhw ac yn ffaelu'n llwyr!
tybed y^n nhw'n debyg i'r hyn a alwn i'n "toad in the hole"?

Emma Reese said...

I'r dim! Mewn mowld mwffin gwnes i nhw.

Linda said...

Mmmmm, y bwyd yn edrych yn flasus iawn fel arfer emma.

Emma Reese said...

Diolch!