Friday, February 13, 2009

ddydd gwener


Mae'n ddiwrnod i mi weithio yn swyddfa fy ngwr heddiw. Tra oeddwn i'n cerdded yn yr adeilad, des i ar draws hwn. Roedd o ar wal mewn ffrâm ond tynnodd hogan glên tu ôl y cownter un rhydd allan o gwpwrdd i mi dynnu llun. Dim ond addurn ydy hwn. Does neb yn ei ddefyddio gwaetha'r modd.

llun: siart profi golwg efo llythrennau iaith Cherokee

3 comments:

Gwybedyn said...

diddorol iawn.

Mae'r wyddor yna'n edrych yn hyfryd, on'd yw hi?

Tybed pryd y cafodd ei defnyddio diwethaf - byddai rhaid wrth gwrs gael deintydd oedd yn nabod y llythrennau hefyd, yn ogystal â chlaf. Tybed sut mae dweud "awwww!" yn Sierokî.

Emma Reese said...

Dw i ddim yn siwr a oedd y siart erioed wedi cael ei ddefnyddio mewn profion go iawn. Mi wna i ofyn i'r ysgrifenyddes yn yr Adran Optometreg wythnos nesa.

Emma Reese said...

Dim ond addurn ydy'r siart wedi'r cwbl. Does 'na ddim llawer o Cherokees yn siarad eu hiaith. Dydy'r un o'r 'optometrists' yn siarad hi chwaith beth bynnag.