Wednesday, February 25, 2009

siaradwch gymraeg â fi!

Fasech chi'n hoffi nwyddau sy'n dweud "Siaradwch Gymraeg â fi!" ? Dw i newydd archebu crys T. Mae fy merch hyna wedi dechrau gwerthu nwyddau efo ei dyluniadau gwreiddiol. A gofynes i iddi wneud rhywbeth Cymraeg. A dyma nhw! Ei syniad ydy'r cymal. Diolch yn fawr i szczeb am ei help efo'r cyfieithiad. Bydd hi'n gwneud dyluniadau Cymraeg eraill yn y dyfodol hefyd. Dewch yn llu!

6 comments:

Gwybedyn said...

hei! mae'r rheiny'n dda iawn. mi fyddwn innau'n siarad Cymraeg â phwy bynnag fyddai'n dangos y slogan yna!

(eto, byddwn i'n fodlon siarad Cymraeg gyda neb!)

Emma Reese said...

Diolch i ti szczeb!!

neil wyn said...

Bendigedig! Ydy hi'n posib i'w gyrru i'r Deyrnas Unedig? Mi faswn i'n awyddus i brynu un.

Emma Reese said...

Ydy!

Corndolly said...

Emma a Szcseb Mae'n hyn yn wych. Dw i eisiau crys T, ond dydw i ddim yn gwisgo Crys T gwyn. Ydyn nhw ar gael yn ddu efo llythrennau du ?? Dw i wedi argraffu'r dudalen ac dw i'n mynd â hi i'r Nags Head heno.

Emma Reese said...

Mae 'na lawer o liwau ar gael ond dw i ddim yn siwr pa liw a fydd y llythrennau. Mi nes i archebu crys 'lime-green'. Diolch am hysbysebu'r wefan!