Saturday, June 6, 2009

dydd sadwrn




Dw i wedi bod am ymweld â marchnad y ffermwyr sy'n cael ei chynnal yn ystod y tywydd cynnes. Ond fel arfer dw i ar frys a heb gael cyfle. Penderfynes i fynd heddiw ond yn anffodus roeddwn i'n rhy hwyr ac roedd y rhan fwyaf o'r cynnyrch wedi mynd. Prynes i 'sugarsnap peas' ffres beth bynnag.

Tra oeddwn i yno, clywes i rywun yn galw fy enw. Pwy oedd yna ond Hope, y fydwraig a wnaeth fy helpu i gael fy mabi olaf gartref ddeng mlynedd yn ôl! Roedd hi a'i merch yn gwerthu eu cynnyrch hefyd. (yr ail lun) Er bod ni'n byw yn yr un dref, prin mod i'n dod ar ei thraws hi. Roedd yn dda gen i ei gweld hi am y tro cyntaf ers amser.

Yna es i a'r gwr i barti penblwydd priodas ffrindau dros amser cinio. Roedd Dr. a Mrs. Norton yn dathlu'r '70ed' penblwydd priodas! Roedd yna ryw 150 o bobl yn dathlu'r diwrnod arbennig.

No comments: