Thursday, June 11, 2009

y weddw ddu

Ces i fy nifyrru wrth ddarllen newyddion BBC y bore ma am y Weddw Ddu. Mae'n ddifyr nid oherwydd bod hi wedi croesu'r môr i Gymru o America ond bod hi wedi gwneud newyddion heb sôn am y ffaith y bydd hi'n cael ei gyrru i swˆ.

Er mod i heb weld un fy hun eto, dw i wedi dod i arfer â'r fodolaeth erbyn hyn. Mae gynnon ni fwy o broblemau gyda 'Brown Recluse' na'r Weddw Ddu yn Oklahoma. Dan ni'n ffeindio un neu ddau o gwmpas y tyˆ weithiau.

Yndw, dw i'n byw yn y gorllewin gwyllt!


2 comments:

asuka said...

mae'n gas 'da fi corrod (wel, y rhai peryglus o leia)!
ac mae'r weddw ddu yn edrych mor ddiniwed on'd yw hi? snîci.
dylai hi fod yn binc gyda smotiau gleision neu rywbeth trawiadol iawn, er mwyn rhoi rhybudd y dylai dỳn gadw draw!

Emma Reese said...

Mae 'Brown Recluse' yn edrych yn ddiniwed braidd hefyd. Mae gen i ffrind neu ddau a gaeth ei frathu gynno fo yn ddiweddar ac roedd rhaid mynd i'r ysbyty.