Thursday, September 3, 2009

y pafiliwn (4/8/09)


Ces i anrhydedd o gyfarfod Haf Morris, enillydd Medal T.H. Parry Williams, ffrind i Gwilym ac un glên iawn. Roedd yn brofiad anhygoel i eistedd yn y Pafiliwm am y tro cynta a gweld y seremoni gyflwynwyd gan Dei Tomos. Mae'r Cymry'n gwybod sut i anrhydeddu rhywun sy'n deilwng. Fues i erioed mewn seremoni felly. Ces i fy mesmereiddio ganddi hi.

Roeddwn i'n edrych ymalen at Gofio T.Llew Jones yn y Babell Len yn y prynhawn. Roedd yn braf gweld cymaint o blant ac oedolion gasglodd i'w gofio fo, ond rhaid cyfaddef mod i wedi cael fy siomi. Roedd adrodd cerddi T.Llew gan blant yn wych ond roeddwn i'n disgwyl mwy nag araith ar ei fywyd a dweud y gwir.

1 comment:

Corndolly said...

Dylwn i fod wedi gwylio mwy o'r Eisteddfod ar y teledu, efallai byddwn i wedi dy weld di yn y gynulleidfa !