Thursday, October 22, 2009

buddug

Des i ar draws Buddug wrth ddarllen am y Rhufeiniaid yn Hanes Cymru. Hanes ofnadwy o echryslon a gwaedlyd sy'n fy atgoffa i o hanes William Wallace ydy o. Serch hynny dyma chwilio am wybodaeth amdani a chael hyd i raglen BBC chwe rhan ar You Tube. Mae'r rhaglenni hanes gan BBC yn wych o lawer. Daw hanes yn fyw gyda chymorth gweledol. A dw i'n falch iawn cael eu gweld nhw ar You Tube.

Gyda llaw, clywes i y câi ffilm newydd gan Mel Gibson amdani hi ei dangos y flwyddyn nesa. Dw i'n siwr y bydd hi mor 'heart-rending' â Braveheart. (Fedra i ddim ffeindio'r ansoddair addas.)

4 comments:

neil wyn said...

Dwi'n edrych ymlaen at y ffilm hefyd.

Gyda llaw, Mae Geiriadur 'Bruce' yn rhoi 'torcalonnus' neu 'calonrwygol' fel cyfieithiadau o 'heart-rending'

Emma Reese said...

Calonrwygol! Dyna fo! Roddwn i'n meddwl mai 'heart-breaking' oedd 'torcalonnus.' Diolch i ti Neil.

Rhys Wynne said...

Tydw i ddim yn hanesydd o bell ffordd, ond mae'n debyg mai ar y ffigwr hanesyddol Buddug y seilwyd y cymeriad/eicon 'Victoria' yn re-hash pobl oes Fictoria o hanes ynys Prydain. Felly er mae'n debyg taw arweinydd(es) llwyth o Frythoniaid (sef y Cymry gwreiddiol) oedd Buddug, mai hi nawr yn cael ei hystyried fel symbol o Prydeindod.

Dw i'n troedio ar dir gwleidyddol yma, ond mae'n diddordol dw i'n credu.

Emma Reese said...

Diolch am y wybodaeth, Rhys. Doeddwn i ddim yn gwybod. Mae'n ddarn o hanes diddorol er bod yn echryslon serch hynny. (Buddug, dim y ffaith bod hi'n cael ei throi'n symbol o Brydeindod.)