Monday, October 19, 2009

dotiau coch

Am declyn! Welais erioed y ffasiwn beth. Wel, hwyrach bod hyn wedi bod ers amser a dim ond fi sy heb wybod amdano. Digon posibl. Beth bynnag, dyma fo, map sy'n dangos pwy wedi ymweld y blog. Mae'n ddiddorol gweld y gwledydd amrywiol lle mae'r ymwelydd yn byw ynddyn nhw. Dw i'n siwr mai fi sy'n cynrychioli'r ddot yng nghanol yr Unol Daleithiau! Ac mae yna rai o Vancouver (neu Comox) efallai?

2 comments:

neil wyn said...

Rhyfedd o declyn 'tydy. Ro'n i'n meddwl am funud neu ddau mi fasa'n hwyl cael rhywbeth felly ar fy mlog, ond ar ôl meddwl amdanhi, mae'n well gen i gario ymlaen smalio bod o leiaf rhai ddegau o bobl yn dilyn y peth, ond gallai'r realaeth bod tra wahanol a gallai'r hen fap yna edrych yn eitha di-smotlyd!!

Emma Reese said...

Dw i'n siwr bod 'na fwy o bobl na wyt ti'n eu dychmygu'n ddarllen dy flog di.