Sunday, November 29, 2009

ar ôl yr wyl

Mae'r plant hyn wedi gadael y p'nawn 'ma, ac mae'r gweddill o'r teulu i ffwrdd heblaw am yr hogin fenga. Dw i newyydd orffen golchi'r dillad gwlau a hwfro ddwy ystafell. Does dim rhaid i mi baratoi swper heno. Dyma gael hoe fach efo panad o Paned Gymerig. 

Mi wnes i "enchilada" efo'r twrci oedd ar ôl neithiwr. Cuddiodd y perlysiau cryf arogl y cig. Roedd yn saig lwyddiannus. Dw i'n bwriadu gwneud hon ar ôl bob cinio twrci.

Wnaethoch chi wrando ar Ddal i Gredu heddiw? Rhys Llwyd sy'n westai'n trafod ei ffydd efo Maldwyn Thomas.

3 comments:

Corndolly said...

Wow, ti wedi bod yn brysur ers tipyn. Ac dim ond tair wythnos nes i ti ailddechrau'r dathliadau unwaith eto.

Emma Reese said...

Ond bydda i'n coginio cig moch am ginio Nadolig o leia. Bydd o'n llai trafferthus o lawer na twrci.

Corndolly said...

Porc a gawn ni hefyd efo dewisiad o lysiau - mae o yn y rhewgell yn barod! Rhaid i mi ddechrau meddwl am y Nadolig yn fuan. Dw i wedi prynu rhai o fy nghardiau Nadolig - yr un yn y Gymraeg, ond mae angen arna fi am rai yn Saesneg.