Saturday, November 7, 2009

collddail

Dw i newydd ddod ar draws y gair hwn wrth ddarllen papur bro Dyffryn Ogwen. Collddail - un o eiriau Cymraeg hunanesboniadol. Sut ydw i fod i wybod sut i ynganu heb sôn am beth ydy ystyr y gair hwn - deciduous?

4 comments:

Nic said...

Pwynt da, a gair pert.

neil wyn said...

Mae'n gair anodd i anghofio unwaith mae rhywun wedi ei glywed 'tydy. Erbyn hyn mae'n fy atgoffa pob tro o ddarn yn llyfr Y Trydydd Peth, pan mae'n son am y coedwigoedd mawr bytholwyrdd a gafodd ei planu ar ôl y rhyfel (ac yn groes i batrwm brodorol coedwigoedd ardal y Bala), a dyna ffarmwr yn planu ambell i goeden collddail ymhlith y coed conifferous di-ri er mwyn syllafu allan 'cyngor' i'r peilotiaid sy'n hedfan uwchben i'r coedwig. Dwn i ddim os oes gwirionedd i'r hanes, ond mae'n stori da ta waeth!!

neil wyn said...

Wps... newydd sylwyddoli nad ydy 'bytholwyrdd' y gair am goeden 'bytholwyrdd', Dylswn i wedi dweud 'conwydden' neu'r 'conwydd' falle.

Emma Reese said...

Mae gan y Gymraeg nifer o eiriau felly.

Wnest ti orffen y Trydydd Peth, Neil?