Thursday, November 19, 2009

wedi gorffen

Dw i newydd orffen uned olaf Cwrs Meistroli ac yn teimlo cymysgedd o falchder a thristwch. Falch o, wrth gwrs, gyflawni'r cwrs a thrist oherwydd nad oes gen i ddim uned i'w wneud a'i gyrru hi at fy nhiwtor. Ond dyna ni. Y mae amser i ddechrau ac amser i orffen.

Roedd yn wych cael dysgu mewn strwythur a bod yn atebol am fy ngwaith heb sôn am gael gofyn cwestiynau i fy nhiwtor. Mae Nia, gyda llaw, yn diwtor medrus a ffeind. Mae hi'n barod i helpu bob tro. 

Yr unig broblem gyda'r cwrs oedd y modd cludiant fel enw'r cwrs yn ei awgrymu - trwy'r post. Roedd yna ddwy streic Bost Brenhinol ers i mi ddechrau Cwrs Pellach ddwy flynedd yn ôl. Aeth uned ar goll hyd yn oed. Clywes i si y byddai'r cyrsiau'n mynd ar lein cyn hir. Basai hynny'n cyflymu'r broses yn sylweddol a dileu'r tâl post. Ond ar y llaw arall, basai hynny'n cwtogi'r mwynhad o wneud y cyrsiau..... O, wel, rhaid bwrw ymlaen, tydy?

7 comments:

Dyfed said...

Llongyfarchiadau ar orffen y cwrs. Mae dy Gymraeg ysgrifenedig yn dda dros ben.

Emma Reese said...

Diolch i ti Dyfed. Mae 'na gymaint mwy i'w ddysgu eto serch hynny!

Nic said...

Llongyfarchs!

Linda said...

Da iawn ti :))

Emma Reese said...

Diolch i chi hefyd, Nic a Linda!

Corndolly said...

Beth wyt ti'n mynd i wneud rŵan te?

Emma Reese said...

Dw i wedi chwilio am gwrs arall ond heb lwyddiant. Mi wna i beth dw i wedi bod yn wneud y rhan fwyaf o'r amser, hynny ydy dysgu ar fy mhen fy hun.