Thursday, December 31, 2009

ers talwm

Dw i'n teimlo'n euog braidd heb sgrifennu ers wythnos. Dw i ddim wedi colli diddordeb yn fy mlog. Naddo wir. Diffyg pynciau sy ar fai fel arfer. Does dim llawer yn mynd ymlaen wedi i ni ddathlu'r Nadolig. Un peth dw i'n ddiolchgar amdano ydy fy mod i wedi dechrau gwella o'r diwedd. Roedd gen i annwyd ofnadwy oedd yn para ers pum wythnos.

Y llyfr dw i'n darllen ar hyn o bryd ydy Rhys Lewis gan Daniel Owen. Prynes i hwn flynyddoedd yn ôl ond heb ei orffen. Mae o'n ddigon difyr a hefyd dw i'n cael ymarfer darllen yr iaith ffurfiol. Mae gen i ddau lyfr gan T.Rowland Hughes i'w darllen ar ôl hwn.

Mae'r eira wedi mynd bron ond does wybod pryd dechreuith fwrw eto. Yn Hawaii mae'r gŵr ar hyn o bryd yn ymweld ei rieni (a mwynhau'r haul heb os!)

2 comments:

Linda said...

Helo !
Da clywed dy fod yn gwella Junko. Beth am gael sgwrs ar skype yn y dyfodol agos ?
Blwyddyn newydd dda a phob hapusrwydd i ti ac i'r teulu.

Emma Reese said...

A thitha a dy deulu!