Monday, December 21, 2009

mac newydd


Mae MAC newydd gynnon ni o'r diwedd. Roedden ni wedi bod yn defnyddio'n hen liniadur wedi i'n prif gyfrifiadur gael ei ddinistrio gan fellten fisoedd yn ôl. A dweud y gwir, roedd o'n eithaf hen hefyd (2002) er fod o'n gweithio'n ffyddlon. Felly mae'n hen bryd i ni gael un newydd beth bynnag.

MAC Mini sydd gynnon ni, ac mae o'n "mini" go iawn. Fedra i ddim credu fod o'n medru gwneud llawer mwy na'r hen MAC mawr. Wedi dweud hynny, mae gynnon ni gysylltiad rhyngrwyd araf. Felly fedrwn ni ddim disgwyl gormod. 

Efallai mai iMAC sy'n fwy poblogaidd, ond mae o'n rhy ddrud i ni. Dw i'n hollol fodlon gyda'r Mini hwn.

2 comments:

Corndolly said...

Mae fy mab yn hoff iawn o Mac. Yn ôl iddo fo, mae'n llawer gwell na Microsoft, ond mae gan Microsoft y monopoli.

Emma Reese said...

Dw i a'r teulu i gyd yn cytuno â dy fab! Mae MAC yn haws o lawer defnaddio a does dim angen poeni am firws.