Thursday, February 4, 2010

Radio Cymru

Clywais i ar y Post Cyntaf y bore 'ma bod nifer o wrandawyr Radio Cymru wedi cynyddu. Ond ymysg y bobl hŷn mae'r cynnydd. Does ryfedd nad oes gan y genhedlaeth weledol cymaint o ddiddordeb mewn byd radio boed Cymraeg neu beidio. Wel, un o'r bobl "hŷn" sy'n cefnogi Radio Cymru dw i.

2 comments:

neil wyn said...

Mae'n peth braf darllen bod y ffigyrau gwrando ar eu fyny, pa oedran bynnag yw'r gwrandawyr ychwanegol! Mae ffigyrau gwrando/gwylio pob sianel teledu/radio ar eu lawr oherwydd y nifer o sianeli newydd am wn i, ac wrth cwrs effaith y we ar arferion pobl yn eu amser hamdden.

Wedi dweud hynny, mae'n pwysig maethu cynulleidfa newydd ymhlith y to iau, ond does fawr ohonynt yn debyg o wrando ar lawer o gynnhyrch yr orsaf (wel rhwng 10.30a.m. ac 8.00p.m. beth bynnag). Fasai'n braf gweld gorsaf newydd ar ran pobl ifanc (neu ifanc eu ysbryd!), er mwyn gwasanaethu'r cynulleidfa Cymraeg yn well.

Emma Reese said...

Mae gan bobl ifanc Gymraeg C2. Basai'n well gen i fwy o raglenni sgyrsiau heb gerddoriaeth a dweud y gwir.