"Dydy amsar diodda nag amsar petha braf ddim yn para'n hir," meddai Nanw Siôn yn 'Te yn y Grug.'
Daeth fy niwrnod olaf yng Nghymru'n rhy fuan. Doeddwn i ddim eisiau mynd yn bell ond aros yng Nghaernarfon nes dal y bws i Fangor. Wedi gweld mynyddoedd yn ddiweddar, penderfynais i gerdded ar hyd y Menai. Dyma'r bont fach wrth y castell yn agor yn sydyn yn y canol pan gyrhaeddais i yno! Aeth cwch twristiaid heibio i'w fordaith. Ar ôl cerdded am ryw ddwy awr, ces i ginio Cymreig/Cymraeg o gawl a sgon gyda phot o de, am y tro olaf. Roedd o'n braf.
-----------
Ces i dreulio tair wythnos mewn bröydd Cymraeg prydferth a gwneud popeth yn Gymraeg (ar wahân i ambell sgwrs Saesneg gyda phobl ddi-Gymraeg.) Roedd y profiadau'n help enfawr i fy Nghymraeg llafar wrth gwrs. Ond mwy na hynny, dw i'n ddiolchgar dros ben fy mod i wedi cyfarfod cynifer o bobl glên a dod yn nabod rhai ohonyn nhw'n dda. A beth nesa? Dw i ddim yn hollol siŵr. Un dydd ar y tro amdani.
2 comments:
Diolch yn fawr i ti am rannu dy brofiadau efo ni Junko, ac am ddisgrifiadau mor fanwl a diddorol o dy daith i Gymru fach. Wedi mwynhau gweld y lluniau hefyd !
Diolch i ti Linda. Dw i wedi mwynhau adrodd fy hanes. A diolch i bawb sy wedi ei darllen.
Post a Comment