Saturday, July 10, 2010

wolf

Wolf oedd llysenw Chiyonofuji, chwaraewr Swmo enwog. Dw i ddim yn ymddiddori yn Swmo ond roeddwn i'n gwylio'r teledu'n eiddgar pan oedd Wolf yn chwarae flynyddoedd yn ôl. Un cymharol fach ym maes Swmo ond cyhyrol; roedd ei chwarae'n werth ei weld. Efallai bod yna rywbeth yn apelio at bawb pan mae dyn bach yn curo rhai llawer mwy na fo.

Mae byd Swmo mewn argyfwng ar hyn o bryd oherwydd y gamblo ymysg y chwaraewyr. Darllen yr erthyglau yn eu cylch wnaeth fy atgoffa i o'r un mor arbennig yn hanes Swmo.

2 comments:

neil wyn said...

Mae'n ymddangos o'r fideo youtube, lle peryglus iawn gallai'r rhes flaen bod mewn 'cyfarfod' Swmo!

Diddorol gweld yr ymgodymwr 'bach' taflu'r rhai llai tu allan i'r cylch!

Emma Reese said...

Ti'n iawn, Neil. Eto i gyd, seddau drud ydyn nhw.