


Y peth cyntaf roeddwn i am ei wneud wedi cyrraedd Corwen oedd ffeindio'r syfle bws i Fetws-y-Coed. Es i mewn i gaffi cyfagos i archebu cinio a holi am y bws. Roedd y ddynes tu ôl y cownter yn glên iawn. Roedd y safle yn ddigon amlwg ond awgrymodd hi i mi fynd i'r llyfrgell i holi am y manylion cyn iddo gau am ginio. Allan â fi'n gadael fy mrechdan gyda'r ddynes gymwynasgar, a ches i gopi o'r amserlen. Oedd, byddai'r bws wythnosol i Fetws yn gadael Corwen am 2:15 yn bendant. Dim ond ar ddydd Mawrth mae o'n rhedeg; ddydd Mawrth oedd hi. Roedd gen i ddigon o amser hefyd.
Es i'n ôl i'r caffi'n teimlo'n esmwyth ac ailddechrau fy nghinio. A dyma sylwi bod nhw'n gwerthu Beiblau Cymraeg a hunangofiant Trebor Edwards ynghyd â'i gryno disgiau; roedd dynes y caffi'n edrych yn gyfarwydd.... Tybed mai Catherine, merch hynaf Trebor ydy hi? Dw i wedi darllen y llyfr a gweld lluniau ei deulu; mae un o'i blant yn rhedeg caffi yng Nghorwen hefyd. A dyma holi a chael ateb yn gadarnhaol! Des i'w chaffi heb wybod!
3 comments:
dyna gyd-ddkgwyddiad hapus tydi!
Ia wir. Un ffeind oedd hi hefyd.
Doeddet ti ddim yn bell o yma, a doeddwn i ddim yn gwybod ! Dydy y daith i Gorwen ddim yn hir o gwbl o yma. Dyna biti!
Post a Comment