Saturday, July 24, 2010

marchnad ffermwyr




Mae'n braf ac yn boeth bore dydd Sadwrn; es i farchnad y ffermwyr am y tro cyntaf eleni. Roeddwn i dipyn yn hwyr ond roedd yna ddigon o lysiau, ffrwythau, bara, sebon a chig oen! Prynais i datws, tomatos, nionod, india-corn, cantalope a sebon llefrith gafr.

Un o bleserau mynd i farchnad ffermwyr ydy siarad รข'r bobl. Des i ar draws dwy ffrind welais i mohonyn nhw ers tro'r bore 'ma. Roedd yn braf clywed telyn a ffidl ffermwr ar gefn ei pick-up hefyd.

Bydd rhaid i mi fynd eto.

No comments: