Wedi cael sgwrs ddymunol gyda Catherine, es i'r safle bws. Dechreuodd dynes ar y safle siarad â fi; roedd hi yng Nghaffi Catherine hefyd a chlywodd hi ein sgwrs. Roedd yn braf sgwrsio gyda hi nes i'w bws ddod.
Arhosais i am fy mws: ddaeth hanner dwsin o fysiau eraill ond fy un i. Dim ond un bws yr wythnos sy'n mynd i Fetws. Beth fyddwn i'n ei wneud os na ddôi o gwbl? Es i'n ôl i'r llyfrgell am help. Roedd y llyfrgellydd yn glên a chymwynasgar dros ben; ffoniodd hi'r cwmni bws drosta i; rhoiodd hi'r ffôn i mi wedyn i mi gael trafod y broblem gyda'r cwmni'n uniongyrchol.
Gwnaethon nhw gamgymeriad ar yr amserlen; ar ddydd Gwener mae'r bws yn rhedeg, dim ar ddydd Mawrth! Awgrymodd y ddynes ar ffôn gynllun arall; mynd i Ryl ar y bws, dal y trên i Fangor a mynd ar y bws i Lanberis, hynny i gyd yn Gymraeg, chwarae teg iddi.
2 comments:
mae'r sustem trafnidaeth cyhoeddus yng ngyhmru'n ddiffygiol mae'n amlwg. ond o leiaf gest ti wasanaeth da yn y llyfrgell!
Do wir, ac mi nes i gyfarfod cymaint o bobl glên ym mhob man.
Post a Comment