Saturday, October 9, 2010

seliau cyst car



Diwrnod Seliau Cyst Car ydy hi yn y gymdogaeth hon; dw i ddim yn cofio darllen nodyn amdano fo, ond does dim digon o drugareddau diangen yn y tŷ ar hyn o bryd beth bynnag. Es i ynghyd â'r teulu i weld beth oedd ar werth. Roedd y gymdogaeth gaeedig fach yn llawn o geir a cherddwyr. Gan ein bod ni'n mynd yn rhy hwyr, doedd fawr o ddim i ni; tegan i'r mab ifancaf a chwpan Nadoligaidd i un o'r gennod. O leia' ces i sgyrsiau sydyn gyda chymdogion a thynnu lluniau ar gyfer y blog. Diwrnod braf.

2 comments:

neil wyn said...

dwi'n gweld cadair sydd angen bach o waith trwsio mewn un o'r lluniau!

Emma Reese said...

Wnes i ddim gofyn faint oedd hi!