Friday, June 24, 2011

cymru 2011 - aberdaron

Wedi gadael Nant Gwrtheyrn, dan ni'n anelu at Aberdaron. Mae'r tywydd yn dal yn braf felly dydy'r tonnau'r môr ddim mor wyllt ond tyner. Dw i ddim yn disgwyl cael dod i fynegfys y Pen Llŷn. Dan ni'n mynd i mewn i Eglwys Sant Hywyn lle a oedd R.S.Thomas yn bugeilio. Mae'r drws ar agor ac mae anrhegion ar werthu yn y tawelwch ond heb neb i'w gwarchod.

Mae'n rhyfeddol gweld y môr ar y ddwy ochr wrth i ni yrru.

Mae awyr y môr wedi dwyn chwant bwyd arnon ni. Cawson ni swper gwych yn yr Harbwr, tŷ bwyta mawr newydd yn ymyl y Galeri yng Nghaernarfon. Diolch i Linda ac Idris am y plât stecen heb sôn am y diwrnod arbennig.

2 comments:

Linda said...

A diolch i tithau hefyd Junko am dy gwmpeini. Ew , mi 'roedd y pryd yn Yr Harbwr yn flasus iawn .

Emma Reese said...

Oedd wir! Mi o'n i'n trio bwcio bwrdd i fi a'r ffrindiau wedyn ond roedd y lle'n llawn dop a rhaid mynd i rywle arall.