Daeth Nisha allan o'r tŷ bach cyhoeddus. Gwelodd hi ddyn canol oed ar fin mynd i mewn i ochr y dynion gyda mop a bwced.
"Esgusodwch fi," mentrodd hi.Edrychodd arni. Edrychodd ddwywaith. Safodd hogan dal, yn ei hugeiniau, gyda gwallt du, hir a llygaid duon mawr, meddal. Roedd hi mor glws fel yr aeth o'n fud.
"Mr. Williams dach chi?"
"S... sut gwyddoch chi fy enw?"
"Mi wnes i glywed amdanoch chi ar Radio Cymru.”
"Do?"
"Do wir."
"Ond, ond... dach chi'n siarad Cymraeg! Sut? Pam?"
"Dw i wedi dysgu."
"Ydach? O le dach chi'n dŵad?"
"O America, Oklahoma."
"Oklahoma? ... Mae'ch Cymraeg yn ardderchog!”
"Diolch," gwenodd. Disgleiriodd ei dannedd gwyn.
"O, mae'n ddrwg gen i. Nisha ydy fy enw i, Nisha Kingfisher."
"Nisha?"
"Ia, neis eich cyfarfod chi, Mr. Williams."
"O... a fi chithau."
Mae Henry yn methu credu bod hogan ifanc mor glws a welodd erioed wedi ei glywed o'n siarad ar raglen radio, a hynny yn America. Ac mae hi yma o flaen ei lygaid yn siarad â fo yn Gymraeg coeth.
"Dach chi'n mynd i chwarae golff pnawn 'ma?"
"Ydw'n tad. Dach chi'n cofio'n iawn be nes i ddeud yn y rhaglen."
"Yndw achos..."
"Achos be?”
"Alright, Luv? I 'aven't seen you round here before; what's your name?”
Oddi wrth un o'r tri hogyn sydd newydd ddod allan o'r tŷ bach. Gofynnodd hi i Henry gan anwybyddu'r hogyn.
"Mr. Williams, ga' i siarad efo chi yn y clwb golff ella? Dw i ddim isio aros yma."
"Cewch, wrth gwrs..."
"Hei Luv, what's this old loo cleaner to a pretty girl like you? What's his charm? Don't talk to him, or you'll catch his 'orrible germs, and..."
Orffennodd yr hogyn mo'i frawddeg. Doedd o ddim yn gwybod beth ddigwyddodd. Pan aeth ato, roedd o'n gorwedd ar y ddaear galed gyda phoen poeth ar ei foch de. Clywodd waed yn ei geg. Aeth pawb yn fud. Dechreuodd un o'r hogiau regi.
"What's going on here?"
Ymddangosodd heddwas o nunlle.
"Officer! This girl attacked my mate! Arrest her! She's vicious! A public hazard! Look, he's bleeding to death inne, ay!"
"Now now, it doesn't look that serious.”
Trodd at Nisha.
"Tell me, ma'am. Did you really punch him down?”
"Do."
"Chi'n siarad Cymraeg?"
"Yndw. Ac mae o'n haeddu cael ei daro. Mi naeth sarhau fy ffrind. Mi fedrwn i fod wedi 'i daro fo'n galetach ond nes i ddim."
Fedrai'r heddwas ddim peidio â gwenu.
"Chi'n siarad Cymraeg yn dda iawn."
Roedd o eisiau gofyn cwestiynau iddi am ei Chymraeg ond galwodd ei ddyletswydd.
"Bore da, Henry. Dweda wrtha' i be ddigwyddodd.”
"You lot are all in it together, speaking that XXXX lingo! I demand you speak the language of the civilized!"
Erbyn hyn roedd tyrfa swmpus wedi ymgasglu i weld yr olygfa fwy difyr na'r ffilm ddiweddaraf yn y sinema. Cododd yr hogyn ar ei draed, edrych yn fygythiol ar y tri a'r dyrfa. Yna, i ffwrdd â fo heb air. Brasgamodd y ddau arall ar ei ôl.