Dw i'n dysgu Japaneg ar ddydd Llun i hen ddyn annwyl sy'n caru Japaneaid ac yn awyddus yn dysgu'r iaith. Mae o wedi bod yn dysgu ar ben ei hun dros flynyddoedd, ac yn gwybod cymaint o fynegiannau defnyddiol. Ond mae'n anodd iddo ddeall pobl a siarad. Mi fedra i gydymdeimlo â fo.
Mi ddechreues i ddysgu gwersi iddo fo misoedd yn ôl. Dw i'n gwneud fy ngorau glas ond mae'n un peth i fod yn rhugl ac yn beth arall i ddysgu pobl eraill. Ond heddiw, dw i'n meddwl bod ni'n gwenud yn well na'r arfer. Mi ddes i o hyd i ffordd iddo ymarfer siarad. Gobeithio bydda i'n medru bod yn gymorth rhywsut.
Wedyn, mi ges i sgwrs efo Linda ar Skype. Bydd hi a'i gwr yn mynd ar wyliau i "Canadian Rockies" mewn ychydig o ddyddiau. Siwrnau dda!
4 comments:
Yn falch fod y wers wedi mynd yn dda!
A diolch i ti am y sgwrs yn gynharach :)
Ac i titha!
Dw i wedi cofrestru o'r diwedd, ac dw i'n gweld dy fod di wedi bod yn brysur ar dy flog dros y penwythnos. Dw i'n falch o glywed dy fod di wedi darganfod ffordd dda i ddysgu Siapaneg. Rwan, os rwyt ti'n gallu gwneud yr un peth efo Cymraeg .....?
Croeso i fy mlog, corndolly. Dyma syndod pleserus! Diolch am dy sylw. Mae'r ffordd ma ar gyfer dechreuwyer, ond efallai medra i newid tipyn ac ymarfer Cymraeg.
Post a Comment