Un broblem i mi ddysgu Cymraeg i fy merch ydy mai fi, dysgwraig sy'n dysgu. Mae'r ramadeg yn ddigon syml ar ddechrau, ond dw i ddim isio iddi ddynwared fy ynganiad! Mae 'na wersi efo ffeiliau sain ar y we, ond maen nhw'n dysgu ffurfiau deheuol fel arfer.
Heddiw mi nes i gofio gwersi addas iddi, sef Big Welsh Challenge ar BBC (uchod.) Mi gewch chi ddewis o ffurfiau gogleddol neu ddeheuol. Ac maen nhw wedi ychwanegi mwy o unedau'n ddiweddar. Maen nhw'n arddechog i ddechreuwyr. Dach chi'n gwybod bod Huw Garmon yn actio hefyd?
9 comments:
clywais i dy fod ti'n holi am raglenni S4C gydag is-deitlau. Maen nhw ar gael yn UDA yn sicr; cer at www.s4c.co.uk; yna "gwylio yma"; mae dolen "Cynnwys A-Y" sy'n rhestru pob dim sydd ar gael.
Fel y dywedais ar flog Dot pwy ddiwrnod, fy mhrif awgrym ar hyn o bryd yw rhaglenni natur Iolo: http://www.s4c.co.uk/naturcymru/c_index.shtml
Mae'n bosibl cael isdeitlau yn Saesneg neu Gymraeg:
Wedi agor Windows Media, symudwch y llygoden at y Ddewislen : File,View,Play,Tools, Help. Cliciwch ar y dde ar Play, ac wedyn dewiswch Captions a’r opsiwn Isdeitlau Cymraeg neu Saesneg (pan maen nhw ar gael).
Falle bydd y ferch yn mwynhau rhai o'r rhaglenni i blant! Mae 'na rai yno sy'n reit dda.
Mae'n dweud ar y wefan nad yw pob rhaglen ar gael y tu allan i UDA, ond ches i erioed broblemau yma yn Boston.
erratum:
"... y tu allan i'r DU..."
ffurfie deheuol - ofnadw! smo ti moyn iddi hi ddysgu reini! ;)
szczeb, does 'na ddim "Dewislen" yn unman. ???
A dweud y gwir, dw i'n mwynhau'r rhaglenni plant hefyd! Oli Dan y Don ydy'n ffefryn.
Pa ddewislen sy' ar goll? Windows Media Player?
Nid yn y gornel chwith uchaf?
Dw i'n dallt rwan ar ôl siarad â'r gwr. Quick Time, dim Windows MP dan ni'n defnyddio achos bod gynnon ni MAC. Dyna pam fod na ddim Dewislen.
mae'n bosibl dadlwytho fersiwn o windows media player i macs oddi ar y we am ddim:
http://www.microsoft.com/windows/
windowsmedia/player/mac/mp9/default.aspx
sa' i'n gwybod sut mae gosod windows media player fel "default player", ond gelli di gopio'r dolenni o wefan s4c a gofyn i windows media player eu hagor nhw fel URLs (yn y ddewislen "file").
wedyn rwyt ti'n cael dewis "show captions" yn y ddewislen "view" a dewis "cymraeg" fel "language" yn y ddewislen "play".
rwy newydd wneud hyn i gyd, ac mae'n gweithio'n iawn, er nad oes is-deitlau cymraeg i bopeth. triais i "rownd a rownd" gynta' ac *mae* is-deitlau 'da hi.
Dydy hynny ddim yn gweithio, mae arna i ofn. Dw i'n cael gweld holl raglenni s4c o leia. Diolch am bopeth.
Post a Comment