Saturday, April 19, 2008

gair o gymru (dolen yma)

Mi ddechreues i dynysgrifio i Ninnau, papur bro Cymry Gogledd America misoedd yn ôl. Mae o yn Saesneg heblaw colofn, Gair o Gymru gan Cathrin o Borthaethwy. Mae hi'n sgwennu am ei phrofiadau difyr yn ogystal â'i barnau ar bethau cyfoes ac yn cyflwyno cerdd fer briodol bob tymor. Mi fydda i'n edrych ymlaen at ddallen ei cholofn bob mis. Mi gewch chi brofi rhifyn ar y we (uchod.)

Dw i wedi bod yn cysylltu â hi ers dechrau tynysgrifio. Dynes weithgar ydy hi. Fel mae'n digwydd mae hi a fy nghiwtor Cymraeg yn mynd i'r un capel ym Mangor. Byd bach dw i'n byw ynddo.

2 comments:

Linda said...

Byd bach yn wir emma :) 'Roedd Cathrin Williams yn ddarlithydd yn y Coleg Normal ym Mangor pan oeddwn i'n fyfyriwr yno.
Wedi cael golwg ar Ninnau ar y we, ac yn gweld fod 'na amryw o erthyglau diddorol ynddo.

Emma Reese said...

Ydy wir! Mi fydd hi'n synnu gwybod mod i'n dy nabod di!