Saturday, April 5, 2008

sgyrsiau dros baned

gan Elwyn Hughes ydy fy hoff ddeunydd dysgu ar hyn o bryd ar wahan i Gwrs Pellach. Llyfr ffeithiol byr i ddysgwyr ar 28 o amrywiol bynciau diddorol ydy hwn. Mae 'na geirfa ddefnyddiol hefyd. Ac wrth gwrs fod o wedi sgwennu mewn ffurfiau gogleddol, neu fasa ei fam sy'n Ogleddwraig bybyr byth wedi bod yn hapus!

Dw i wedi prynu llawer o lyfrau Cymraeg dros flynyddoedd. Naill ai'n rhy anodd neu'n rhy ddiflas ydy llawer ohonyn nhw. Wrth gwrs bod 'na rhai dw i'n hapus iawn efo nhw hefyd fel hwn.

Beth dw i'n wneud ydy mod i'n darllen un uned sawl gwaith yn uchel. Wedyn sgwenna i beth dw i wedi ei ddarllen i lawr unwaith. Mi fasai'n well taswn i'n sgwennu sawl gwaith ond basa hynny'n cymryd gormod o amser. Mi ga i ddefnyddio unrhyw lyfr ond mae hwn yn taro deuddeg.

9 comments:

asuka said...

waw - sa' i'n nabod neb arall sy'n dysgu mewn ffordd mor ddrwyadl. llawn edmygedd.

Emma Reese said...

Mi nes i ddarllen am Eidalwr sy wedi dysgu Japaneg ar ben ei hun ac mae o'n rhugl bellach (os ydy o'n dal i fyw.) Mi sgwenodd o'r hunangofiant yn Japaneg llithrig. Fo argymellodd y ffordd ddysgu ma.

Szczeb said...

ie, edmygedd - clywir sw^n hetiau'n cael eu codi ym mhedwar ban y byd blogio Cymraeg!

Emma Reese said...

Mi faswn i'n licio gwybod sut dach chi i gyd yn dysgu.

asuka said...

sa' i'n cael lot o amser i weithio ar 'nghymraeg i ar hyn o bryd. 'mond treio cadw fy llygaid a 'nghlustiau ar agor rwy wrth ddarllen a gwrando.
ond rwy wedi bod yn dysgu cymraeg mewn ffordd debyg i ti, rwy'n credu, gan weithio drwy lyfrau gareth king ac adnoddau eraill ar 'mhen fy hunan tra'n treio gwneud cyrsiau haf yng nghymru mor aml ac y bo modd (ond heb ddysgu'r eirfa i gyd cystal ag dylwn i!).
dylai szczeb egluro sut maen nhw'n astudio cymraeg mewn cyrsiau yn ein prifysgol ni. rwy'n cael yr argraff bendant o'n blog cymraeg ni bod y dull addysgu yn un llwyddiannus.
ond mae'n siwr yr elwai'r myfyrwyr yna ar unrhyw gyngor fyddai 'da tithau o ran dysgu'r iaith, emma reese, fel dysgwraig lwyddiannus iawn.

Emma Reese said...

Y ffordd orau ydy bod yn Nghymru, siwr ond dydy hynny ddim yn bosib i mi ac i lawer o ddysgwyr yn y byd. Be ddylwn i neud felly i wella fy Nghymraeg llafar yn enwedig?

Y syndod i mi ydy bod 'na cyrsiau Cymraeg yn Harvard.

asuka said...

na, mae'n amhosibl treulio misoedd yn nghymru bob blwyddyn! ond rwy'n siwr fod ti'n falch iti wneud y cwrs ym mangor yr haf diwetha' - 'sdim ffordd orau o ddechrau dysgu o ddifri', sa' i'n credu.

gwrando:
rwy'n sicr y gall rhai pobl gael is-deitlau cymraeg s4c ar y we - os nad yw hi'n bosibl, mae s4c 'di newid eu gwefan nhw, sy ddim yn deg o gwbl. down i'm yn gallu eu gwylio nhw yn u.d.a. (am fod 'mheiriant i'n rhy hen) ond *roedd* szczeb yn ei wneud e yn boston y llynedd. bendant. gwelais i fe.

wyt ti 'di gweld hyn?:
http://www.bbc.co.uk/cymru/
tiwtoriaid/adnoddauclywedol/

cei di ddarnau bach neis yma i wrando arnyn nhw a chwestiynau i'w hateb.

asuka said...

falle taw dim ond rhai rhaglenni o't ti'n gallu eu gwylio gyda'r is-deitlau tu fas i gymru. ond roedd 'na rai.

Emma Reese said...

Maen nhw'n dweud bod isdeitlau ddim ar gael i'r rhai tu hwnt i'r Brydain, rhywbeth i neud efo hawlfraint. Dw i'n cael gwylio'r holl raglenni hebddyn nhw ar y we. Mae'n anodd iawn dallt nhw wrth gwrs.

Dw i wedi gwrando ar y ffeiliau sain Cymru tiwtoriaid. Mi fasai'n dda tasai'r sain yn glirach. Rhaid i mi weithio ar hwn eto achos bod na gwestiynau'n help mawr.